2018, Ysgol Gynradd Pencoed, anghenion dysgu ychwanegol
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.
Cynnig i sefydlu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn Ysgol Gynradd Pencoe.
Dogfennau cysylltiedig
Darlun cyffredinol
Diben yr ymgynghoriad yw gofyn am eich barn ar y cynnig i sefydlu canolfan adnoddau dysgu (LRC) ar gyfer hyd at wyth disgybl ag anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd (ASD) yn Ysgol Gynradd Pencoed.
Sut i ymateb
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 9 Chwefror 2018 ac yn dod i ben ar 23 Mawrth 2018.
Gallwch ymateb neu ofyn rhagor o gwestiynau yn y ffyrdd canlynol:
Cyswllt:
Y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Mae fformatau amgen hefyd ar gael drwy wneud cais amdanynt.
Cynhelir cyfarfodydd ymgynghori a sesiynau galw heibio y mae modd i chi gadw lle ar eu cyfer, fel y manylir dros y ddalen ar gyfer y gwahanol bartïon sydd â diddordeb.
Lleoliad: Ysgol Gynradd Pencoed |
Dyddiad |
Amser |
---|---|---|
Cyngor yr Ysgol – Ysgol Gynradd Pencoed | 26 Chwefror 2018 | 2.45pm |
Aelodau staff Ysgol Gynradd Pencoed | 26 Chwefror 2018 | 3.40pm |
Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Pencoed | 26 Chwefror 2018 | 4.30pm |
Rhieni disgyblion yn Ysgol Gynradd Pencoed a phobl eraill â buddiant | 26 Chwefror 2018 | 5.30pm |
Ymgynghoriad
Dyma’r amserlen a ragwelir ar gyfer dilyn y weithdrefn a gweithredu’r cynnig.
Digwyddiadau |
Dyddiad |
---|---|
Cyfnod ymgynghori pan fyddwn yn croesawu eich sylwadau ar y cynnig*. |
9 Chwefror 2018 i 23 Mawrth 2018 |
Adroddiad Ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad. |
24 Ebrill 2018 |
Cyhoeddi Adroddiad Ymgynghoriad ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd copïau papur ar gael drwy wneud cais amdanynt. | 2 Mai 2018 |
Os yw Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno, cyhoeddir hysbysiad cyhoeddus a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r cynnig. | 3 Mai 2018 |
Diwedd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus. Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, gall y Cabinet benderfynu ar unwaith a yw’n bwrw ymlaen â’r cynnig ai peidio. Os oes unrhyw wrthwynebiadau, cyhoeddir Adroddiad Gwrthwynebiad a’i gyflwyno i’r Cabinet i’w ystyried a phenderfynu arno wedyn. | 31 Mai 2018 |
Ei weithredu o bosibl. | 1 Medi 2018 |
*Sylwer na chaiff ymatebion i’r ymgynghoriad eu hystyried yn wrthwynebiadau i’r cynnig ac nad yw’n bosibl cofnodi gwrthwynebiad hyd nes ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad cyhoeddus.
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.