Cwestiynau cyffredin am Fy Nghyfrif
Os ydych chi’n cael problemau mynd ar Fy Nghyfrif, efallai bod yr ateb isod.
Ceisiwch roi eich manylion eto neu edrych yn eich ffolder e-byst sothach.
Rhaid i chi ddefnyddio’r e-bost a’r cyfrinair a ddefnyddioch chi i greu’r cyfrif.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi actifadu'r cyfrif drwy glicio ar y ddolen yn yr e-bost a gawsoch chi adeg cofrestru.
Gallwch chi ailosod eich cyfrinair Fy Nghyfrif o’r sgrîn mewngofnodi neu drwy glicio ar ailosod eich cyfrinair. Bydd rhaid i chi fynd ar y cyfrif e-bost a ddefnyddioch chi i greu'r cyfrif i wneud hynny.
Bydd angen i chi greu Fy Nghyfrif newydd gyda chyfeiriad e-bost newydd. Dilynwch y ddolen hon i greu Fy Nghyfrif newydd.
Gallwch newid eich cyfeiriad e-bost cofrestredig drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif ac wedyn clicio ar eich enw ar dop y sgrin ac wedyn dewis 'Newid E-bost' oddi ar y gwymprestr.
Wrth gofrestru i weld manylion eich cyfrif treth gyngor, gofynnir i chi nodi cyfeirnod ac ateb nifer o gwestiynau diogelwch. Rhaid i'r manylion hyn gyfateb i'r wybodaeth ar eich bil treth gyngor diweddaraf.
Cofiwch ddod â’ch bil treth gyngor diweddaraf gyda chi. Os na lwyddwch i ddod o hyd iddo, cwblhewch ein ffurflen ‘cysylltwch â ni’, dewis ‘Treth Gyngor’ o’r gwymplen ac yna ‘Lle alla i ddod o hyd i fy rhif cyfeirnod’ o’r rhestr o gwestiynau - Cysylltwch â ni
Hefyd, os ydych chi’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, mae eich cyfeirnod treth gyngor ar eich datganiad banc ochr yn ochr â'r taliad.
Rhaid prosesu taliadau a chân nhw eu hychwanegu at eich cyfrif o fewn diwrnod gwaith. Cofiwch hynny pan welwch chi'r balans ar Fy Nghyfrif. Gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i dynnu symiau o’ch cyfrif banc.
Ni fydd yn bosibl gweld manylion eich cyfrif heb eich rhif cyfeirnod. Os ydych chi’n cael budd-daliadau, ni fydd modd gweld eich cofnodion budd-daliadau heb eich rhif cyfeirnod neu rai manylion personol – er enghraifft, eich Rhif Yswiriant Gwladol.
Cliciwch ar 'Methu dod o hyd i’r cyfeiriad' a theipio eich cyfeiriad yn y bocsys.
Os oes unrhyw rai o'ch manylion yn anghywir, gallwch newid eich manylion yn Fy Nghyfrif. Cliciwch ar "Croeso i Fy Nghyfrif" a dewis "Fy Mhroffil" oddi ar y gwymprestr.
Os oes unrhyw rai o'ch manylion yn anghywir ar eich bil, anfonwch e-bost i myaccountsupport@bridgend.gov.uk yn nodi eich cyfeirnod treth gyngor a pha newidiadau sydd eu hangen.
Dyw'r meysydd ddim yn gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach. Gallwch chi ddefnyddio'r ddau.
Bydd rhaid dechrau eto ar ôl 15 munud o ddiffyg gweithredu.
Ni fydd Fy Nghyfrif ar gael yn achlysurol wrth i ni roi ein data wrth gefn. Byddwn ni’n cyhoeddi neges ar y wefan i roi gwybod i chi am ba hyd na fydd ar gael.
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio Fy Nghyfrif oherwydd problem gyda hygyrchedd, e.e. nam ar y golwg, cysylltwch â myaccountsupport@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643643.
Cewch eich bil yn gynt ar-lein. Yn ogystal â pheidio ag aros iddo drwy’r post, gallwch hyd yn oed weld hen filiau ar Fy Nghyfrif, sy’n ei gwneud yn haws i chi drefnu’ch cofnodion. Mae osgoi biliau papur yn llawer gwell i’r amgylchedd hefyd.