Cofrestru ar Fy Nghyfrif
Mae Fy Nghyfrif yn wasanaeth sydd wedi’i bersonoli i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gyda Fy Nghyfrif gallwch arbed amser ac arian wrth:
- Adrodd i’r cyngor am broblemau gan ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein
- Rheoli eich cyfrif treth gyngor ar-lein
- Rheoli eich cyfrif budd-dal tai ar-lein
- Cais am ymweliad gan wasanaeth rheoli plâu (eiddo domestig yn unig)
- Cais am fynediad i ysgol a phrydau ysgol am ddim
Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif
Gallwch gofrestru’n gyflym a hawdd, cyfeiriad e-bost yw’r cyfan sydd ei angen arnoch.
Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
I fewngofnodi i Fy Nghyfrif nodwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair
Rheoli eich budd-dal Tai a gostyngiad yn y dreth gyngor gyda Fy Nghyfrif
Gyda Fy Nghyfrif, gallwch reoli eich budd-dal tai, gallwch:
- edrych ar eich hawliad budd-dal tai
- gwneud cais am fudd-dal tai
- rhoi gwybod inni am newid yn eich amgylchiadau
- gwneud cais am daliadau disgresiwn at gostau tai
- gwneud cais am brydau ysgol rhad ac am ddim
Os oes angen ichi gyflwyno dogfennau, gallwch wneud hyn fel rhan o'r cais ar-lein.
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaethau Fy Nghyfrif hyn yn ddiogel drwy fewngofnodi gydag enw defnyddiwr a chyfrinair.
Noder: Fe wnaeth ein llwyfan Fy Nghyfrif newid ym Mawrth 2021, felly nid yw eich Fy Nghyfrif blaenorol ar gael bellach. Mae angen i chi gofrestru cyfrif newydd.
Rheoli eich Treth gyngor gyda Fy Nghyfrif
Gyda Fy Nghyfrif gallwch:
- dalu eich treth gyngor
- gweld eich bil treth gyngor
- gosod debyd uniongyrchol
- rhoi gwybod i ni os ydych wedi symud tŷ
- gwneud cais am ostyngiadau ac eithriadau
- newid dyddiad eich debyd uniongyrchol
- newid y cyfrif banc y daw eich debyd uniongyrchol ohono
- cofrestru ar gyfer e-filio y dreth gyngor fel bod modd ichi weld ac argraffu eich bil unrhyw bryd