Swyddi Gwaith Cymdeithasol
Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol yn helpu i warchod plant ac oedolion bregus rhag niwed a chamdriniaeth, a chefnogi pobl i fyw’n annibynnol.
Mae ein gweithwyr cymdeithasol cymwys, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol, uwch ymarferwyr a rheolwyr tîm yn gweithio mewn amrywiaeth o dimau rheng flaen yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys diogelu plant, iechyd meddwl, dysgu, anableddau corfforol.
"Fel rhywun wnaeth adael yr ysgol hefo'r lleiaf o gymwysterau ac yn credu na fyddwn i fyth yn cael y cyfle i gwblhau cwrs gardd, rwy'n eithriadol o ddiolchgar am y cyfleoedd mae'r awdurdod wedi'u rhoi i mi." - Leon, Gweithiwr Cymdeithasol
Buddion gweithio gyda ni ym maes Gwaith Cymdeithasol
Mae llesiant pobl yn bwysig i ni yng ngwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag unigolion i’w galluogi i gydnabod beth sy’n bwysig iddynt fel unigolion, gan adnabod a meithrin eu cryfderau a’u galluoedd a chyflawni'r canlyniadau y maent yn dyheu amdanynt.
Mae buddion trwy ymuno â ni yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg/hybrid i gyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Cyflog cystadleuol gydag ychwanegiad marchnad blynyddol o £5,000 (pro rata) i rai timau
- Buddsoddiad mewn hyfforddiant a datblygiad
- Datblygiad gyrfa parhaus a chyfleoedd hyfforddiant achrededig.
- Hyd at 8k fel pecyn adleoli
- Ystod o gefnogaeth i alluogi staff i gynnal eu llesiant
- Cefnogaeth i gyflawni newid cadarnhaol ym mywydau pobl
- Arweinyddiaeth weledol
- Ymrwymiad i ddull goruchwylio strwythurol
Swyddi gwag diweddaraf
Uwch-ymarferydd - Tîm Anableddau Plant a Phontio
Cyflog: £45,718 - £47,754 y flwyddyn
Dyddiad cau: 29/01/2025