Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddi Gofal Cymdeithasol

Mae ein gweithwyr gofal yn helpu pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosibl, o fewn eu cartref neu sefydliadau preswyl eu hunain.

Rydym yn darparu gofal i bobl hŷn, oedolion gydag anableddau dysgu, a phlant a phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gofalu am eraill yn rôl werth chweil, gan gefnogi eraill i fyw bywydau mwy boddhaus. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i hyfforddi fel gweithiwr gofal.

Croesewir profiad, ond nid yw'n angenrheidiol; credwn mai sut un ydych chi fel person, a'r gwahaniaeth allwch chi ei wneud, sy'n bwysig.

"Wnes i erioed fwriadu cael gyrfa ym maes gofal, ac fe lwyddais i symud yn fy mlaen yn bennaf oherwydd fy mod i'n chwilio am y sialens nesaf, ond fel mae'n digwydd, dyna'r symudiad gorau wnes i erioed" - Penny, Rheolwr Cartref Gofal

Gwasanaethau gofal cymdeithasol

Gofal Preswyl Oedolion

Mae ein gweithwyr cymdeithasol oedolion yn helpu pobl gyda phob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Nid yn unig y mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol oedolion yn rôl werth chweil yn emosiynol, mae’n un o’r rolau mwyaf amrywiol hefyd. Mae gweithio gydag amrywiaeth o bobl gyda gwahanol anghenion gofal yn golygu bod pob diwrnod yn wahanol i'r nesaf.

Gofal Cymdeithasol Plant

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol plant yn gofalu am lesiant corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc mewn gofal. Mae gweithiwr gofal plant, neu weithiwr plant, yn arbenigo mewn helpu plant bregus gydag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol i reoli eu gweithgareddau bob dydd a’u cadw’n ddiogel.

Gweithiwr Cymorth Gofal yn y Cartref

Mae gweithwyr cefnogi gofal cartref yn helpu pobl sydd angen cymorth ychwanegol i fyw’n annibynnol, gan ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i theilwra ar gyfer anghenion unigol; gan hyrwyddo a galluogi annibyniaeth ac annog pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.

Manteision gweithio gyda ni ym maes Gofal Cymdeithasol

Trwy ymuno â ni gallwch elwa o gyfraddau tâl uwch, hyfforddiant a chymwysterau, cyfleoedd a all arwain at waith cymdeithasol a nyrsio, ac oriau gwaith addas i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau eraill.

Mae buddion eraill yn cynnwys:

  • Un o'r rolau mwyaf poblogaidd a boddhaus yn y DU.
  • Y cyfle i hyfforddi wrth i chi ddysgu.
  • Datblygiad gyrfa parhaus, cymwysterau a chyfleoedd hyfforddiant achrededig.
  • Hyblygrwydd ac opsiynau gweithio hybrid.
  • Diogelwch swydd a chyflogaeth hirdymor.
  • Strwythur rheoli cefnogol.
  • Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill
Grŵp o bobl yn eistedd mewn cylch

Swyddi gwag diweddaraf

Uwch-weithiwr Cymorth i Deuluoedd - Ar Ffiniau Gofal

Cyflog: £34,834 y flwyddyn

Dyddiad cau: 12/09/2024

Gweithiwr Gofal Cymdeithasol Achlysurol - Gwasanaethau Darparu Llety

Cyflog: Dyddiau £12.59 yr awr yn yr wythnos £16.78 yr awr ar y penwythnos Nosweithiau £16.78 yr awr yn yr wythnos £20.98 yr awr ar y penwythnos

Dyddiad cau: 18/09/2024

Swyddog Cefnogi Gwaith Cymdeithasol - Cefnogaeth Busnes Gofal Cymdeithasol Plant

Cyflog: £25,119 - £25,979 y flwyddyn

Dyddiad cau: 18/09/2024

Gweithiwr Gofal Cymdeithasol a Gweithiwr Gofal Nos

Cyflog: Gofal Cymdeithasol: £13.02 - £13.47 yr awr yn yr wythnos £17.36 – £17.95 yr awr ar y penwythnos Gofal Nos: £16.51 yr awr yn yr wythnos £20.64 yr awr ar y penwythnos

Dyddiad cau: 18/09/2024

Arweinydd Shifft - Tŷ Harwood - Mewnol yn Unig

Cyflog: £15.17 - £15.70 yr awr a £40.76 am gysgu i mewn £20.22 - £20.93 yr awr ar y penwythnos

Dyddiad cau: 11/09/2024

Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt - Canolfannau Ardal

Cyflog: £34,834 - £36,648 y flwyddyn

Dyddiad cau: 18/09/2024

Swyddog Cymorth Gwasanaeth Maethu - Cyfnod Mamolaeth

Cyflog: £12,559 - £12,989 y flwyddyn

Dyddiad cau: 25/09/2024

Swyddog Cefnogi Gwasanaeth Maethu - Mewnol yn Unig

Cyflog: £12,559 - £12,989 y flwyddyn

Dyddiad cau: 25/09/2024

Gweithiwr Blynyddol - Bryn y Cae

Cyflog: £12.38 yr awr. Bydd yr oriau a weithir ar benwythnosau/gwyliau banc yn cael eu talu ar £16.78 yr awr. Gwaith nos: £16.50 yr awr. Bydd yr oriau a weithir ar benwythnosau/gwyliau banc yn cael eu talu ar £20.62 yr awr

Dyddiad cau: 25/09/2024

Chwilio A i Y