Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddi Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol

Dyma adeg gyffrous i ymuno â’n tîm gofal cymdeithasol wrth i ni barhau i ail-fodelu’r ffordd rydym yn bodloni anghenion plant ac oedolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd angen ein cefnogaeth, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Llywodraeth Cymru - cyfraith a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i gleientiaid ddweud eu dweud am y gofal a’r gefnogaeth maent yn eu derbyn. 

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i weithio. Gallwch ddisgwyl cyfleoedd gwaith gwych ac amgylchedd dysgu cefnogol. Byddwn yn eich cefnogi i greu gyrfa gyffrous ym maes gofal cymdeithasol, o fewn sefydliad blaengar sy’n datblygu.

Yn ddibynnol ar y rôl, nid oes angen cymwysterau arnoch bob amser, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymwysterau cywir. Yr hyn sy'n bwysig yw bod â'r gwerthoedd, agwedd ac ymddygiad cywir er mwyn gweithio'n effeithiol gyda phobl sydd angen gofal a chymorth.

Gofal Cymdeithasol

Mae ein gweithwyr gofal yn helpu pobl sy’n agored i niwed i fyw mor annibynnol â phosibl, o fewn eu cartref neu sefydliadau preswyl eu hunain.

Gwaith Cymdeithasol

Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol yn helpu i warchod plant ac oedolion bregus rhag niwed a chamdriniaeth, a chefnogi pobl i fyw’n annibynnol.

Newyddion Diweddaraf

Gwobrau Cyflawniad Plant a Phobl Ifanc 2024

Mae ‘Gwobrau Plant a Phobl Ifanc 2024’ Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr mewn yn dathlu plant a phobl ifanc 5 – 21 mlwydd oed sydd naill ai’n derbyn gofal gan  Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu wedi gadael gofal y cyngor. 

Os ydych chi’n gofalu neu’n darparu cymorth ar gyfer plentyn/unigolyn ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, neu rywun sydd wedi gadael gofal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gallwch ei enwebu ar gyfer gwobr gyflawni. 

Ceir gwobr ychwanegol, 'Gwobr Help Llaw', er mwyn i weithwyr proffesiynol enwebu oedolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i berson/au ifanc - bydd rhestr fer o'r enwebiadau hyn yn cael ei llunio gan y fforwm ieuenctid, gan adael grŵp dethol o enwebedigion i gael eu gwobrwyo. Gall plant a phobl ifanc enwebu oedolion hefyd mewn arolwg ar wahân. 

Mae Bwrdd Rhianta Corfforaethol yn chwilio am fusnesau lleol i helpu i noddi’r gwobrau. Trwy noddi'r digwyddiad arbennig yma byddwch yn helpu i'w wneud yn ddiwrnod cofiadwy i'r grŵp haeddiannol hwn o blant a phobl ifanc. 

"Mae'n fraint gweithio ochr yn ochr â'r fath gydweithwyr talentog, ymroddedig ac er gwaetha'r heriau rwy'n gwybod y byddwn yn parhau i wneud gwahaniaeth am y gorau ar gyfer pobl a chymunedau Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn y flwyddyn nesaf yma" - Claire Marchant

Beth am ymuno â'n tîm?

  • Datblygiad gyrfa parhaus, cymwysterau a chyfleoedd hyfforddiant achrededig.
  • Hyblygrwydd ac opsiynau gweithio hybrid.
  • Strwythur rheoli cefnogol. 
  • Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl

Gwnewch Gais Ar-lein

Er mwyn gwneud cais ar-lein, bydd rhaid i chi greu cyfrif ar-lein. Os ydych chi’n ddefnyddiwr presennol, mewngofnodwch ga ddefnyddio eich enw fel defnyddiwr a’ch cyfrinair. 

Bydd hyn yn eich galluogi i arbed ceisiadau sydd ar eu canol a gweld ceisiadau wedi’u cyflwyno.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl neu os hoffech fwy o wybodaeth am ymuno â’n tîm, llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi. - Angen cadarnhau pwy fydd yn ymateb i’r ymholiadau drwy ffurflen.

Byw a Gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymunedau ffyniannus sy'n byw ac yn gweithio yn nhrefi marchnad prysur Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg a thref glan môr Porthcawl.

Mae pobl yng Nghymru yn adnabyddus am eu natur groesawgar, ac mae’r fwrdeistref sirol yn cynnig cartref i bobl o bob cenedl gyda grwpiau ffydd ar gyfer pob crefydd a siopau bwyd arbenigol i bob diwylliant. Mae ein bwrdeistref sirol yn le gwych i fyw, i weithio, i astudio, i ymweld â hi, neu i symud iddi.

Chwilio A i Y