Canllaw i ymgeiswyr
Diolch i chi am eich diddordeb mewn rôl gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydyn ni eisiau i chi lenwi cais sy’n adlewyrchu orau eich galluoedd ar gyfer y swydd, felly darllenwch y cyfarwyddyd canlynol cyn cyflwyno eich cais.
Er mwyn gwneud cais ar-lein, bydd rhaid i chi greu cyfrif ar-lein. Os ydych chi’n ddefnyddiwr presennol, mewngofnodwch ga ddefnyddio eich enw fel defnyddiwr a’ch cyfrinair. Bydd hyn yn eich galluogi i arbed ceisiadau sydd ar eu canol a gweld ceisiadau wedi’u cyflwyno.
Yr hysbyseb, disgrifiad swydd a manyleb y person
Mae gofynion allweddol y swydd a’r sgiliau a’r rhinweddau gofynnol yn yr hysbyseb, y disgrifiad swydd a manyleb y person.
Dylech ddarllen y rhain yn ofalus er mwyn deall yn llawn beth sydd ei angen. Dim ond ceisiadau sy’n rhoi tystiolaeth o’r meini prawf hanfodol fel mae manyleb y person yn nodi fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.
Y ffurflen gais
Y ffurflen gais yw’r cam cyntaf ac allweddol i ni weld a ydych chi’n addas ar gyfer y swydd. Mae’n bwysig iawn bod pob adran ar y ffurflen gais yn cael eu llenwi mor glir a llawn â phosib. Dyma’r cyfan sydd gennym ni ar hyn o bryd i benderfynu a ydych chi’n bodloni gofynion y rôl.
Dilynwch y nodiadau cyfarwyddyd ar bob adran ar y ffurflen gais ar-lein:
- gwybodaeth bersonol
- cyflogaeth bresennol ac yn y gorffennol
- addysg a hyfforddiant
- aelodaeth broffesiynol
- gwybodaeth ychwanegol
- geirda a gwybodaeth ategol gan gynnwys Cynlluniau Gwarantu Cyfweliad
- datganiad
- cyfleoedd cyfartal a galluoedd yn y Gymraeg
Gwybodaeth ychwanegol (datganiad personol)
Rhowch sylw arbennig i’r adran ychwanegol. Yn eich datganiad personol, mae’n hanfodol dangos bod gennych chi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad i gyflawni dyletswyddau’r swydd. Rhowch wybodaeth lawn a chlir am eich galluoedd a chofiwch gynnwys esiamplau perthnasol yn dangos sut maent yn bodloni meini prawf manyleb y person. Dim ond os ydynt yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol gaiff ceisiadau eu hystyried ar gyfer y rhestr fer. I’ch helpu, rydym wedi cynnwys rhai esiamplau o sut i roi gwybodaeth o’r fath.
Esiamplau
“Mae gen i sgiliau TG rhagorol a gwybodaeth weithredol am MS Office. Rydw i’n defnyddio Excel ar gyfer diweddaru taenlenni, creu tablau pifod i grynhoi data a ‘VLOOKUP’ i ddadansoddi data ar draws taenlenni niferus. Hefyd mae gen i brofiad o ddefnyddio systemau a rhaglenni cwmni penodol fel… ar gyfer…”.
“Rydw i’n gweithio mewn archfarchnad brysur. Rydw i’n helpu cwmseriaid yn rheolaidd i ddod o hyd i eitemau yn y siop ac yn delio ag ymholiadau yn y til hunanwasanaeth. Nid dim ond un ffordd o ddelio â chwsmeriaid sydd, oherwydd mae ganddyn nhw i gyd wahanol ymholiadau, pryderon ac anghenion. Mae hyn wedi rhoi hyder i mi i allu delio heb gynhyrfu â gwahanol sefyllfaoedd a sicrhau boddhad cwsmeriaid.”
“Mae fy rôl bresennol i’n cynnwys baich gwaith amrywiol gyda gwahanol ddyddiadau cau mewnol ac allanol. Rydw i’n gyfrifol am weinyddu’r broses recriwtio. Rydw i’n gorfod cadw at ddyddiadau cau hysbysebu bob pythefnos a dyddiadau cyflogres misol. Ar adegau, mae’r dyddiadau cau ar gyfer hysbysebu’n cyrraedd yn ystod yr un wythnos â dyddiadau’r gyflogres ac felly mae’n rhaid i mi fod yn drefnus. Rydw i’n gwneud rhestr ddyddiol o bethau i’w gwneud ar gyfer cadw trefn. Rydw i’n penderfynu ar drefn o wneud pethau erbyn y dyddiad cau, a’r amser sydd ei angen i gwblhau’r dasg. Rydw i’n defnyddio fy nghalendr ar e-bost i drefnu’r amser gofynnol i ymgymryd â thasgau newydd yn ogystal ag i osod negeseuon atgoffa. Os byddaf yn cael tasg newydd, byddaf yn ei hychwanegu at y rhestr ac yn penderfynu pryd i’w gwneud. Felly rydw i’n addasu’r drefn o wneud pethau yn ôl yr angen. Os nad ydw i’n gallu cwblhau pob tasg, rydw i’n gofyn am help gan fy nghydweithwyr ond yn troi at fy rheolwr os nad ydyn nhw’n gallu helpu.”
“Yn y brifysgol roedd rhaid i mi gwblhau aseiniadau amrywiol ar yr un pryd er mwyn cadw at ddyddiadau cyflwyno. Roedd gen i swydd ran amser hefyd. Roedd rhaid i mi gynllunio fy ngwaith yn fanwl. Roeddwn i’n creu amserlen fel adnodd cynllunio er mwyn fy helpu i dreulio amser ar bob aseiniad. Roedd hyn yn sicrhau fy mod i’n cadw at yr hyn oedd yn cael ei osod ac yn cwblhau popeth ar amser bob tro."
“Yn ystod y tymor prysuraf yn fy rôl bresennol, roeddwn i’n gweithio yn y siop gyda fy nghydweithwyr i gyrraedd targedau gwerthiant y gangen oedd yn cael eu gosod gan y brif swyddfa. Roedd yn bwysig bod holl aelodau’r tîm yn bositif ac yn parhau’n frwdfrydig hyd yn oed pan oedd y siop yn brysur iawn. Fe wnes i gyfrannu drwy gyrraedd fy holl dargedau personol a helpu fy nghydweithwyr i sicrhau gwerthiant. Fe wnes i ddysgu bod helpu aelodau’r tîm yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar fy nodau fy hun yn gwella cynhyrchiant ac yn creu amgylchedd gwaith hapusach.”
“Ar hyn o bryd rydw i’n gwirfoddoli yng nghlwb chwaraeon fy mhlentyn. Rydw i’n gweithio gyda gwirfoddolwyr eraill i drefnu digwyddiadau codi arian, cadw cofnodion ariannol a threfnu dyddiau gweithgarwch i’r plant a’r rhieni. Mae hyn yn creu amgylchedd positif a chefnogol i bawb ac yn creu ymdeimlad o berthyn.”
Yr iaith Gymraeg
Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Bydd manyleb y person yn nodi’n glir os yw hwn yn ofyniad hanfodol.
Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Mae’r cyngor yn gweithredu Cynlluniau Gwarantu Cyfweliad:
Ar gyfer Pobl Ag Anabledd
Fel cyflogwr Hyderus am Anabledd, rydym wedi ymrwymo i gyfweld ymgeiswyr anabl (fel mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eu diffinio) sy’n bodloni meini prawf hanfodol manyleb y person.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio person anabl fel rhywun “sydd â nam corfforol neu feddyliol, neu sydd wedi bod â nam o’r fath yn y gorffennol, gydag effeithiau tymor hir niweidiol ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd".
Nid yw’r cynllun hwn yn gwarantu swydd i ymgeiswyr anabl. Bydd y gweithdrefnau dewis yn sicrhau bod yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd yn cael ei ddewis yn seiliedig ar feini prawf pecyn y swydd.
Os ydych chi’n gymwys ac eisiau gwneud cais o dan y cynllun hwn, nodwch eich cymhwysedd ar adran berthnasol eich ffurflen gais. Dim ond ymgeiswyr cymwys fydd yn cael eu hystyried o dan y cynlluniau hyn.
Feterans
Fel cyflogwr rydym yn cydnabod bod gennym rôl i’w chwarae mewn helpu’r rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog (feterans) i gyflawni eu potensial mewn bywyd sifil. Rydym yn cydnabod y gall gwneud y newid yma fod yn eithriadol heriol ac, yn benodol, dod o hyd i gyflogaeth barhaus.
Bydd gwarant o gyfweliad yn cael ei gynnig i bobl sy’n cyflawni meini prawf hanfodol y rôl fel y nodir ym manyleb y person ac:
- sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yn y lluoedd arfog ac o fewn 12 wythnos i’r dyddiad rhyddhau
- neu y lluoedd arfog oedd eu cyflogwr tymor hir mwyaf diwethaf ac nid oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad rhyddhau
Nid yw’r cynllun hwn yn gwarantu swydd i feterans. Bydd y gweithdrefnau dewis yn sicrhau bod yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd yn cael ei ddewis yn seiliedig ar becyn meini prawf y swydd.
Os ydych chi’n gymwys ac eisiau gwneud cais o dan y cynlluniau hyn, nodwch eich cymhwysedd ar adran berthnasol eich ffurflen gais. Dim ond ymgeiswyr cymwys fydd yn cael eu hystyried o dan y cynlluniau hyn.
Y datganiad
Drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen gais, rydych yn derbyn telerau’r datganiad. Gall unrhyw ddatganiad ffug neu unrhyw wybodaeth a gaiff ei hepgor arwain at dynnu eich cais yn ôl neu derfynu eich penodiad.
Cyfleoedd cyfartal a galluoedd yn y Gymraeg
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i greu diwylliant gweithle sy'n recriwtio, yn cadw ac yn datblygu staff o gefndiroedd amrywiol. Yn ei dro mae hyn yn cynrychioli ein cymunedau, ac felly yn eu gwasanaethu'n well.
Rydym yn frwdfrydig am gydraddoldeb, yn ymrwymedig i wella ein hamrywiaeth staff, a chefnogi diwylliant cynhwysol sy'n galluogi pawb i ddod â'u hunain llawn a dilys i'r gwaith.
Rydym yn ymrwymedig i recriwtio siaradwyr Cymraeg, pobl anabl, pobl sy'n uniaethu fel LHDTC+ a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig fel rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth ddigonol ar draws pob lefel y sefydliad
Mae’r cwestiynau cyfleoedd cyfartal yn rhan o’r broses ymgeisio a defnyddir yr wybodaeth hon gan y cyngor at ddibenion monitro yn unig. Nid yw’n cael ei defnyddio fel rhan o’r broses ddethol ac nid yw ar gael i’r rheolwyr.
Archwiliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Os oes angen archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) fel rhan o’r swydd, mae’n ofynnol i chi ddatgelu manylion unrhyw euogfarnau na fyddant yn cael eu didoli o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Darllenwch ganllaw didoli’r DBS i gael gwybod mwy.
Mae rhagor o gyfarwyddyd ar euogfarnau heb ddarfod, rhybuddion neu gerydd ar gael hefyd.
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Bydd eich cais yn cael ei brosesu yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (DPA 2018) a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Bydd yn cael ei gadw gan y cyngor at ddibenion recriwtio. Os cewch eich penodi, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw yn unol â Datganiad Prosesu Teg Adran Adnoddau Dynol y cyngor.