Gweithio yn y Cyngor
Y cyngor yw un o gyflogwyr mwyaf y fwrdeistref sirol, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd recriwtio a datblygu gweithlu dawnus sy’n gallu cydweithio i gyflawni blaenoriaethau ac amcanion y cyngor.
Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn gwerthfawrogi amrywiaeth, ac yn cynnig ymrwymiad i gefnogi ein gweithlu, ac yn bwysig iawn eu lles.
Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau a barn ein gweithwyr ac yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol lle gallwch ddysgu sgiliau newydd, cael mynediad at gyfleoedd gwaith a datblygu gyrfa gadarnhaol a gwerth chweil.
Hyd at £8,000 o gostau adleoli ar gael
Cael rhywfaint o gymorth gyda chostau adleoli, a all gyfrannu rhywfaint at gostau symud i'r ardal naill ai tuag at lety dros dro neu symud i breswylfa barhaol.
Cyflogau cystadleuol
Mae gennym strwythur cyflog clir i sicrhau bod yr holl weithwyr yn cael eu talu am gyfrifoldebau eu swydd.
Byddwch yn cael cyflog ychwanegol os yw eich patrwm gweithio’n cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar y penwythnos.
Cynllun pensiwn hael
Bydd pob gweithiwr yn gymwys i ymuno â naill ai’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon yn dibynnu ar ei swydd.
Mae’r ddau gynllun yn cynnig pensiwn diogel lle byddwch yn cael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau pensiwn, ynghyd â hyblygrwydd i dalu mwy o gyfraniadau a sicrwydd ariannol i’ch teulu gydag yswiriant bywyd.
Mae gan aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) bellach fynediad at gynllun Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol Cost a Rennir. Mae AVC Cost a Rennir yn ffordd gost-effeithlon o ychwanegu at eich cronfa bensiwn, lle gallwch elwa o Dreth Incwm a chynilion cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Hawl gwyliau blynyddol hael
Mae pob gweithiwr yn cael o leiaf 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn (pro-rata ar gyfer staff rhan amser). Ar ôl pum mlynedd o wasanaeth di-dor mewn llywodraeth leol, bydd eich hawl gwyliau yn codi i 30 diwrnod y flwyddyn.
Cewch gyfle hefyd i brynu hyd at 10 diwrnod o wyliau ychwanegol bob blwyddyn.
Mae yna hefyd amrywiaeth o ddarpariaethau ar gyfer absenoldeb arbennig, megis bod yn Llywodraethwr Ysgol, ymgymryd â dyletswyddau etholiadol neu fod yn aelod o'r lluoedd arfog.
Polisïau Ystyriol o Deuluoedd
Mae yna gynlluniau arbennig ar waith ar gyfer absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu.
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Mae’r cyngor yn cefnogi cyfleoedd gweithio hyblyg lle bynnag y bo anghenion darparu gwasanaeth yn caniatáu. Gallai hyn gynnwys gweithio rhan amser, oriau cywasgedig ac ati.
Rydym hefyd yn defnyddio technoleg symudol sy'n eich galluogi i weithio o amrywiaeth o safleoedd neu gartref i gynyddu hyblygrwydd a lleihau amser teithio.
Mae ein polisi gweithio hybrid newydd a'n cynllun oriau hyblyg yn cynnig rhywfaint o ddewis i weithwyr o ran yn lle a phryd y cyflawnir dyletswyddau i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Lwfans teithio
Cyfradd safonol y filltir y cyngor yw 47c, sy’n uwch na chyfradd CThEF.
Parcio Ceir Gostyngol ar draws y Fwrdeistref Sirol
Gall gweithwyr gael tocyn car y gellir ei ddefnyddio rhwng dydd Llun a dydd Sul yn un o nifer o feysydd parcio arhosiad hir ar draws y Fwrdeistref Sirol (isafswm taliad ar hyn o bryd £10 y mis). Mae mynediad i mewn ac allan o'r cynllun yn ddewisol.
Cefnogaeth Iechyd a Llesiant
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo iechyd, diogelwch a llesiant ein gweithwyr.
Byddwn yn rhoi mynediad i chi i Raglen Cymorth Gweithiwr a fydd yn cynnwys gwasanaethau fel llinell gwnsela gyfrinachol a fydd ar gael 24/7, ac arbenigwyr i’ch cefnogi gydag ystod o wahanol faterion.
Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ar ystod o bynciau a all effeithio ar eich llesiant ac yn hyrwyddo mentrau iechyd drwy gylchlythyr misol.
Buddion i Staff a Chynlluniau Aberthu Cyflog
Mae gan holl weithwyr y cyngor fynediad i’n gwefan cynilion a buddion, Brivilege, sy’n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau gan fanwerthwyr cenedlaethol a lleol gan gynnwys arian yn ôl, cardiau disgownt a chynigion arbennig – gan eich helpu i helpu’ch cyflog i fynd ymhellach.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau aberthu cyflog sy'n eich galluogi i brynu nwyddau a gwneud arbedion ar eich treth a'ch cyfraniadau yswiriant gwladol gan gynnwys beicio i’r gwaith ac ar gyfer rhai ceir prydles i weithwyr.
Gall pob gweithiwr gofrestru i gael aelodaeth hamdden am bris gostyngol i gael mynediad i ganolfannau hamdden ar draws y fwrdeistref sirol.
Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
Rydym y cynnig ystod eang o gymwysterau ac adnoddau dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys dysgu ar-lein, cyrsiau mewnol ac allanol a mynediad i gymwysterau.
Rydym yn annog ac yn cefnogi ein gweithwyr i reoli eu dysgu a dilyn cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.
Aelodaeth canolfan hamdden am bris gostyngol
Gall pob gweithiwr gofrestru ar gyfer aelodaeth Halo Leisure am y gyfradd ostyngol o £25.85 y mis, sy’n rhoi mynediad diderfyn i chi i’r canlynol yng nghanolfannau hamdden Halo ar draws y fwrdeistref sirol:
- Campfeydd
- Pyllau nofio
- Sbas
- Waliau dringo dan do
- Dosbarthiadau ymarfer corff grŵp
- Mynediad at Halo yn y Cartref
Ad-daliad ffioedd proffesiynol
Mae’r cyngor yn cydnabod, ar gyfer rhai swyddi, mae’n allweddol bod gweithwyr yn aelodau cymwys o gorff proffesiynol sy’n gofyn iddynt gynnal eu harbenigedd drwy barhau â datblygiad proffesiynol parhaus. Mewn rhai achosion, mae hwn yn ofyniad gorfodol.
Wrth dalu ffioedd proffesiynol neu ffioedd cofrestru mae’r cyngor yn dangos ei ymrwymiad i weithwyr drwy annog gwelliant datblygiad proffesiynol a chynnal hygrededd proffesiynol.
Cydnabyddiaeth staff
Mae canmoliaeth, cyflawniadau a gwobrau yn cael eu cydnabod/dathlu a’u hyrwyddo drwy drefniadau gan y tîm rheoli yn ogystal â thrwy negeseuon staff, cylchlythyrau a’r cylchgrawn staff.
Mae gan y cyngor bolisi gwobr ffyddlondeb sy’n cydnabod bod y gwasanaethau effeithlon a safonol mae’n eu darparu i bobl a chymunedau’r fwrdeistref sirol yn ddibynnol ar gyfraniad, ymdrech a ffyddlondeb staff.
Felly, mae gwobr ariannol yn daladwy wrth ymddeol/ymddiswyddo i weithwyr gydag o leiaf 20 mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol parhaus gydag ein cyngor (neu gyngor blaenorol).