Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddi

Swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol

Edrychwch ar y swyddi gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol diweddaraf sydd ar gael a gwnewch gais ar-lein.

Swyddi gwag yn y gwasanaethau arlwyo

Ymunwch â gwasanaethau arlwyo wrth i ni barhau i gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.

Swyddi gwag mewn ysgolion

Ewch i wefan eTeach i weld y swyddi gwag diweddaraf mewn ysgolion yn y fwrdeistref sirol.

Byw a Gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymunedau ffyniannus sy'n byw ac yn gweithio yn nhrefi marchnad prysur Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg a thref glan môr Porthcawl.

Mae pobl yng Nghymru yn adnabyddus am eu natur groesawgar, ac mae’r fwrdeistref sirol yn cynnig cartref i bobl o bob cenedl gyda grwpiau ffydd ar gyfer pob crefydd a siopau bwyd arbenigol i bob diwylliant. Mae ein bwrdeistref sirol yn le gwych i fyw, i weithio, i astudio, i ymweld â hi, neu i symud iddi.

Desg gymorth

Gallwch ddod o hyd i’n swyddi gwag ar ein porth swyddi. Os oes angen cymorth arnoch neu os ydych chi’n cael trafferth cyflwyno cais, cysylltwch â’n Desg Gymorth neu ffoniwch 01656 643698.

Oriau agor y ddesg gymorth:

  • Dydd Llun i ddydd Iau, 8:30am – 5pm
  • Dydd Gwener, 8.30am - 4:30pm

Diweddariadau e-bost

I gofrestru, nodwch eich cyfeiriad e-bost:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i greu diwylliant gweithle sy’n recriwtio, yn cadw, ac yn datblygu staff o gefndiroedd amrywiol. A thrwy hynny cynrychioli ein cymunedau, ac felly eu gwasanaethu’n well.

Rydym ni’n frwdfrydig am gydraddoldeb, wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein staff, a chefnogi diwylliant cynhwysol sy’n caniatáu i bawb ddod â nhw eu hunain yn llwyr ac yn wirioneddol i’r gwaith.

Rydym ni wedi ymrwymo i recriwtio siaradwyr Cymraeg, pobl anabl, pobl sy’n uniaethu fel LHDTC+ a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig fel rhan o’n hymrwymiad i fynd i’r afael â phrinder cynrychiolaeth ar draws pob lefel o’r sefydliad.

I ni, mae ‘cydraddoldeb’ yn golygu deall a mynd i’r afael â rhwystrau fel bod pawb yn cael cyfle teg i gyflawni hyd at eithaf eu gallu. Mae gennym ni drefniadau ar waith sy’n helpu i greu proses recriwtio lle gall pob ymgeisydd wneud ei orau.

Chwilio A i Y