Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi hawl i bobl gael mynediad at wybodaeth amgylcheddol a ddelir gan gynghorau ac awdurdodau cyhoeddus.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am:
- yr amgylchedd ei hun, gan gynnwys awyr, dŵr, y ddaear a chynefinoedd planhigion ac anifeiliaid
- pethau sy’n effeithio ar yr amgylchedd megis allyriadau, ymbelydredd, sŵn a mathau eraill o lygredd
- polisïau, cynlluniau a chyfreithiau ar yr amgylchedd
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Geisiadau am Wybodaeth Amgylcheddol o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Os nad ydych yn gwybod a yw eich cais yn un am wybodaeth amgylcheddol, ysgrifennwch neu anfonwch ef drwy e-bost atom a gallwn helpu.
Cyswllt
Tîm Gwybodaeth
Gwasanaeth Gweithredol a Phartneriaeth
E-bost:
foi@bridgend.gov.uk
Cyfeiriad:
Swyddfa Ddinesig,
Stryd yr Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB.