Diogelu Data
Mae’r DU Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (DU RhDDC) a Deddf Diogelu Data 2018 yn rheoleiddio prosesu gwybodaeth mewn perthynas ag unigolion. Mae hyn yn cynnwys cael, cadw, defnyddio neu ddatgelu gwybodaeth o’r fath.
I sicrhau ein bod ni’n ymdrin â data personol yn gyfreithlon ac yn briodol, mae’n rhaid i ni gydymffurfio â’r Ddeddf ac yn benodol â’r Egwyddorion Diogelu Data. Mae’r rhain yn gofyn bod rhaid i’r data personol:
- gael ei brosesu’n deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw
- cael ei gasglu at ddibenion penodedig, eglur a cyfreithlon
- bod yn ddigonol, yn berthnasol ac yn angenrheidiol
- bod yn gywir a lle y bo’n angenrheidiol, yn gyfredol
- cael ei gadw ar ffurf lle y gellir adnabod y person am yn hwy nag sydd ei angen
- cael ei brosesu’n ddiogel
Eich hawliau o dan y Ddeddf
Mae gennych yr hawl i wybod a yw eich data personol yn cael ei brosesu ac os felly, mae gennych hawl i gael copi.
Mae gennych yr hawl i gael data personol anghywir wedi’i unioni heb oedi gormodol.
O dan rai amgylchiadau penodol mae gennych yr hawl i gael eich data personol wedi’i ddileu.
O dan rai amgylchiadau penodol mae gennych yr hawl i’n cyfyngu rhag prosesu eich gwybodaeth.
Mae gennych yr hawl i dderbyn y data personol rydych wedi’i roi i ni (rheolwr y data) mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei ddarllen gan beiriant.
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu unrhyw bryd i brosesu eich data personol. Ni fyddwn ni (rheolwr y data) bellach yn prosesu eich data oni bai y gallwn ddangos bod rheswm da dros wneud hynny. Mae’n rhaid i hyn fod dros eich buddiannau, hawliau a rhyddid, neu fod ar gyfer ein hamddiffyniad o hawliau cyfreithiol.
O dan y Ddeddf mae gennych yr hawl, yn ddarostyngedig i eithriadau, i beidio â bod yn ddarostyngedig i benderfyniad pan fydd wedi’i seilio ar brosesu awtomataidd.
Cais i weld eich gwybodaeth
Defnyddiwch y Ffurflen Cais am Fynediad y Gwrthrych.
Rhaid i’r Cyngor ymdrechu i gydymffurfio â Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth heb oedi’n ormodol ac o fewn un mis fan bellaf i dderbyn y cais. Gallwn ymestyn yr amser i ymateb o ddau fis pellach os bydd y cais yn gymhleth neu os byddwn wedi derbyn nifer o geisiadau gan yr un unigolyn.
Bydd angen prawf hunaniaeth, prawf preswyliad parhaus / awdurdod i weithredu ar ran rhywun arall ac unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddod o hyd i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani cyn y caiff cais ei brosesu.
Adrodd am ddata anghywir
Dylech chi ysgrifennu atom gan ddweud pa ddata sy’n anghywir. Mae’n rhaid i ni ymateb i chi o fewn 21 diwrnod.
Cyswllt
Gwneud cwyn
Rydym yn gwneud ein gorau i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Rydym yn ystyried unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn ynglŷn â hyn yn ddifrifol iawn.
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y cafodd eich data ei drin, cysylltwch â’n hadran cwynion. Hefyd gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Am faint rydym yn cadw eich data personol
Ni fyddwn yn cadw eich data personol yn hwy nag sydd ei angen. Y Polisi Cadw Data yn dweud wrthym am ba mor hir y cawn gadw gwybodaeth bersonol.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mewn mannau eraill ar y we
Dogfennau
- Strategaeth Rheoli Gwybodaeth (PDF 244Kb)
- Y Polisi Diogelu Data 2023 (PDF 136Kb)
- Amserlen Gadw Gorfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (PDF 647Kb)
- Taliadau Costau Byw Hysbysiad Preifatrwydd (PDF 79Kb)
- Strategaeth Rheoli Gwybodaeth (1) (PDF 244Kb)
- Protocol i’r Aelodau Etholedig (PDF 137Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd - Cyllid (PDF 302Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd, MASH (PDF 440Kb)
- TTP PN Rhagfyr 2020 (PDF 538Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd, Taliadau Tir (PDF 188Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd, Tai (PDF 203Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd, Gwasanaethau Cyfreithiol (PDF 197Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd, Llywodraethu (PDF 258Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd, Rhyddid Gwybodaeth (PDF 199Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd, Adnoddau Dynol (PDF 201Kb)
- hysbysiad-preifatrwydd-budd-daliadau (PDF 160Kb)
- Datganiad Prosesu Teg, Cyffredinol (PDF 259Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd, Cwynion (PDF 193Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd - Cyllid (PDF 302Kb)
- Datganiad Prosesu Teg, Taliadau Uniongyrchol (PDF 256Kb)
- Datganiad Prosesu, Etholiadol (PDF 222Kb)
- Datganiad Prosesu Teg, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (PDF 134Kb)
- Datganiad Prosesu Teg, Systemau Ariannol (PDF 126Kb)
- Datganiad Prosesu Teg, Llywodraethu (PDF 126Kb)
- Datganiad Prosesu Teg, Yswiriant a Risg (PDF 121Kb)
- Datganiad Prosesu Teg (PDF 212Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd - Cynllun Wcráin (PDF 350Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd Budd Daliadau (PDF 168Kb)
- Datganiad Preifatrwydd, Urddas Mislif (PDF 78Kb)
- Hysbysiad Preifatrwydd Addysg, Blynyddoedd Cynnar A Phobl Ifanc (PDF 218Kb)