Strategaeth Garbon Sero Net
Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu ar gyfer Cymru Sero Net erbyn 2050, gyda’r sector cyhoeddus yn arwain trwy esiampl i gyflawni Sero Net erbyn 2030.
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r targed Sero Net erbyn 2030, ac yn cydnabod y rôl arweiniol ar lefel ehangach, o safbwynt galluogi busnesau a chymunedau’r sir i gyflawni Sero Net.
Gwnaethom ein datganiad o ran ein hargyfwng hinsawdd ein hunain ym Mehefin 2020, a sefydlwyd ein rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd.
Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr yw’r cam strategol cychwynnol o safbwynt cyflawni’r ymrwymiad hwn.
Mae’n bwysig nodi nad y Strategaeth hon fydd yr unig sbardun ar gyfer cyflawni Sero Net. Bydd yn rhan annatod o Gynllun Corfforaethol a Chynllun Llesiant y Cyngor, a bydd polisïau, strategaethau a chynlluniau parhaus yn adlewyrchu’r ymrwymiad i gyrraedd Sero Net. Bydd hyn yn sicrhau bod y sefydliad cyfan yn ei groesawu.
Niwtral o ran Carbon erbyn 2030 – Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae niwtraliaeth garbon neu Garbon Sero Net yn golygu cydbwyso’r allyriadau nwyon tŷ gwydr yr ydym yn eu cynhyrchu â nifer y nwyon yr ydym yn eu tynnu o’r atmosffer.
Ar hyn o bryd, mae'r byd yn cynhyrchu mwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr nag y mae'n eu hamsugno, sy'n achosi cynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd.
Beth yw Ôl Troed Carbon Pen-y-bont ar Ogwr?
Comisiynodd y Cyngor asesiad ôl troed carbon ar gyfer ei weithrediadau ei hun.
- Cyfanswm Allyriadau Carbon Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr 2019/20: 90,241 tunnell CO2e
Mae hyn yn tua 0.23% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru.
Cyfrifwyd ôl troed carbon y Cyngor o 2019/20 gan ddefnyddio methodoleg Adrodd am Garbon Llywodraeth Cymru. Mae Adroddiadau Carbon Llywodraeth Cymru yn edrych ar allyriadau sy’n cael eu priodoli i’r tri chategori neu gwmpas:
Allyriadau Uniongyrchol – yw’r rheiny sy’n deillio o sefydliad yn ei ffynhonnell, er enghraifft drwy wresogi adeiladau neu o bibellau gwacáu cerbydau.
Allyriadau Anuniongyrchol – yw’r rheiny sy’n dod yn bennaf o drydan a ddefnyddir yn ein gweithgareddau ond lle mae’r cynhyrchiant a’r allyriadau cysylltiedig mewn mannau eraill.
Yr holl allyriadau anuniongyrchol eraill – yw’r rheiny sy’n dod yn bennaf o drydan a ddefnyddir yn ein gweithgareddau ond lle mae’r cynhyrchiant a’r allyriadau cysylltiedig mewn mannau eraill.
Ein Hymrwymiadau
- Bydd y Cyngor yn dangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gyflawni Strategaeth Garbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030, i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd fel y datganwyd gan Lywodraeth Cymru, y Senedd a'r Cyngor.
- Bydd y Cyngor yn integreiddio ymddygiadau carbon isel a di-garbon ledled y sefydliad a bydd effaith carbon yn dod yn ystyriaeth allweddol ym mhob penderfyniad strategol.
- Bydd y Cyngor yn datgarboneiddio ei ystâd adeiledig erbyn 2030 gyda ffocws cryf ar effeithlonrwydd ynni, gwresogi carbon isel a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle.
- Bydd y Cyngor yn ymgymryd â rhaglen adnewyddu’r fflyd i gerbydau allyriadau isel iawn, fel bod pob cerbyd yn ULEV erbyn 2030.
- Bydd y Cyngor yn hyrwyddo dewisiadau teithio llesol a charbon isel drwy ei holl weithrediadau ei hun.
- Bydd y Cyngor yn datgarboneiddio ei weithgarwch caffael drwy ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi, cefnogi a gorfodi cyflenwyr i ddatgarboneiddio, a datblygu arferion caffael lleol cynaliadwy.
- Bydd y Cyngor yn sicrhau bod ei ddaliadau tir yn cael eu datblygu a'u cynnal i gefnogi amcanion Sero Net drwy lefelau uchel o atafaelu carbon a bioamrywiaeth.
- Bydd y Cyngor yn datgarboneiddio ei ffrydiau gwastraff drwy roi terfyn ar ddefnydd tirlenwi a mabwysiadu diwylliant ailddefnyddio ochr yn ochr â dulliau cynaliadwy o gael gwared ar wastraff.