Pontio’r UE
Mae llywodraeth y DU a'r UE bellach wedi cytuno ar fargen ar eu perthynas yn y dyfodol.
Mae newidiadau sy'n effeithio ar bob un ohonom. O'r ffordd rydym yn gwneud busnes i'r ffordd rydym yn teithio.
Ewch i wefan 'Paratoi Cymru' Llywodraeth Cymru (External link - Opens in a new tab or window) i gael cyngor i drigolion a busnesau ledled Cymru am y camau sydd angen eu cymryd.
Newidiadau i fusnesau a dinasyddion
Mae rheolau newydd ar gyfer busnesau a dinasyddion o 1 Ionawr 2021 ymlaen.
Mae'r rheolau newydd yn effeithio ar ddinasyddion, busnesau a theithio i'r UE. Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer diwedd cyfnod pontio Brexit.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU am:
- beth fydd 2021 yn ei olygu i chi (External link - Opens in a new tab or window)
- mewnforio nwyddau o’r UE (External link - Opens in a new tab or window)
- allforio nwyddau i’r UE (External link - Opens in a new tab or window)
- symud nwyddau i neu o Ogledd Iwerddon (External link - Opens in a new tab or window)
- teithio i’r UE (External link - Opens in a new tab or window)
- byw a gweithio yn yr UE (External link - Opens in a new tab or window)
- aros yn y DU os ydych chi’n ddinesydd yr UE (External link - Opens in a new tab or window)
Beth sydd angen i chi ei wneud
Bydd eich busnes, eich teulu a'ch amgylchiadau personol yn cael eu heffeithio. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu holiadur gwirio ar-lein i gael rhestr bersonol o gamau gweithredu. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer negeseuon e-bost i gael diweddariadau am yr hyn mae angen i chi ei wneud.
Cwblhau’r holiadur Gwirio, Newid, Mynd (External link - Opens in a new tab or window)
Canllawiau sector benodol
Dewch o hyd i wybodaeth am gamau gweithredu pwysig ar gyfer deg sector o'r economi:
- Awyrofod (External link - Opens in a new tab or window)
- Modurol (External link - Opens in a new tab or window)
- Cemegau (External link - Opens in a new tab or window)
- Adeiladu (External link - Opens in a new tab or window)
- Nwyddau Defnyddwyr (External link - Opens in a new tab or window)
- Electroneg a pheiriannau (External link - Opens in a new tab or window)
- Gwyddorau Bywyd (External link - Opens in a new tab or window)
- Metelau a deunyddiau eraill (External link - Opens in a new tab or window)
- Gwasanaethau proffesiynol a busnes (External link - Opens in a new tab or window)
- Sector manwerthu (External link - Opens in a new tab or window)
Porthol Brexit
Mae Porthol Brexit Busnes Cymru yn darparu diweddariadau a dolenni at wybodaeth a chamau gweithredu i helpu busnesau i feddwl am yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i baratoi ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.
Mae Busnes Cymru yn cynnig un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid i gynghori a rhoi cymorth o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Am ragor o wybodaeth ewch i Borthol Brexit (External link - Opens in a new tab or window)neu ffoniwch 0300 060 3000.
Cronfa Cefnogaeth Brexit BBaChau
Mae grantiau ar gael i helpu busnesau bach a chanolig sy'n newydd i fewnforio neu allforio.
Gallai Cronfa Cefnogaeth Brexit BBaChau roi hyd at £2,000 i chi i helpu gyda hyfforddiant neu gyngor proffesiynol, os oes gan eich busnes hyd at 500 o gyflogeion a dim mwy na £100 miliwn o drosiant blynyddol.
Gallwch ddefnyddio'r grant ar gyfer hyfforddiant ar y canlynol:
- sut i gwblhau datganiadau tollau
- sut i reoli prosesau tollau a defnyddio meddalwedd a systemau tollau
- agweddau penodol sy'n gysylltiedig â mewnforio ac allforio gan gynnwys TAW, tollau cartref a rheolau tarddiad
Gellir ei ddefnyddio i'ch helpu i gael cyngor proffesiynol fel bod eich busnes yn gallu bodloni ei ofynion o ran tollau tramor a chartref, TAW mewnforio neu ddiogelwch a gofynion datganiad diogelwch.
Bydd y ceisiadau ar gyfer Cronfa Cefnogaeth Brexit BBaChau yn agor yn fuan.
Sefydliadau'r trydydd sector
Mae Fforwm Brexit Cymru (External link - Opens in a new tab or window) yn cynnig y canllawiau ac adnoddau diweddaraf i helpu'ch sefydliad i ddeall a pharatoi ar gyfer effaith bosibl Brexit.
Data personol
Yn dilyn Brexit, mae'r rheolau ynglŷn â sut y bydd data personol yn cael ei drosglwyddo rhwng yr UE a'r DU yn newid.
Mae gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnig rhagor o fanylion am ddiogelu data a Brexit (External link - Opens in a new tab or window) a sut y gallai'r newidiadau hyn effeithio arnoch chi neu eich sefydliad.