Crynodeb ffeithlun o'r arolwg Mannau Agored a Gwyrdd
A yw mannau gwyrdd ac agored yn cael eu defnyddio'n wahanol yn ystod y cyfnod clo?
Dywedodd y 586 o ymatebwyr i'r arolwg Mannau Gwyrdd ac Agored Pen-y-bont ar Ogwr wrthym
Roedd 97% yn gwerthfawrogi mannau gwyrdd yn fwy yn dilyn y cyfnod clo, roedd llawer wedi dod o hyd i leoedd newydd i'w mwynhau
Bydd 95% yn defnyddio mwy o fannau gwyrdd yn y dyfodol
Roedd 81% yn fwy ymwybodol o fywyd gwyllt, yn gweld adar a phryfed o gwmpas y lle ac yn yr ardd
Teimlai93% fod defnyddio mannau gwyrdd lleol wedi helpu eu hiechyd personol a theuluol a’u hiechyd meddwl
Defnyddiodd 56% fannau gwyrdd i wneud ymarfer corff newydd
Dywedodd 476 o ymatebwyr eu bod am ddefnyddio mwy o fannau gwyrdd ar gyfer cerdded, 252 ar gyfer beicio a 144 ar gyfer rhedeg. Roedd 363 eisiau ymweld â mwy o warchodfeydd natur
Dywedodd 244 o bobl eu bod eisiau gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau cadwraeth fel codi sbwriel a phlannu coed
Dywedodd 63 o ymatebwyr fod mannau gwyrdd yn bwysig i'w busnes
Camau nesaf
Bydd canlyniadau'r arolwg yma’n helpu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr i:
Ymgysylltu â mwy o wirfoddolwyr
- Gwella mannau gwyrdd
- Annog mwy o bobl i ddefnyddio mannau gwyrdd ac agored i wella eu hiechyd