Dewch yn aelod lleyg
Mae pedwar Aelod Lleyg yn gwasanaethu ar Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor. Mae’r pwyllgorau statudol hyn yn rhan hollbwysig o raglenni gwella a fframweithiau llywodraethu Awdurdodau Lleol.
Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw rhoi sicrwydd annibynnol ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, y trefniadau asesu perfformiad, y modd yr ymdrinnir â chwynion, a chywirdeb prosesau adrodd ariannol a phrosesau llywodraethu. Trwy oruchwylio gwaith archwilio mewnol ac allanol, mae’n gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol ar waith.
Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd hybrid sy’n galluogi aelodau’r pwyllgor i fynychu wyneb yn wyneb neu o bell – rhywbeth sy’n hwyluso Unigolion Lleyg i gymryd rhan yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod oddeutu chwe gwaith y flwyddyn ac mae Unigolion Lleyg (Aelodau Annibynnol) yn cael cydnabyddiaeth ariannol am fynychu’r cyfarfodydd.
Caiff y gydnabyddiaeth ariannol ei thalu yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Gweler yr adroddiad sydd ynghlwm (adran 9, tudalennau 31-32). Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol
Swyddi gwag diweddaraf
Ar hyn o bryd, mae un o’r swyddi hyn yn wag.
Ystyr unigolyn lleyg yw:
- Rhywun nad yw’n aelod o unrhyw awdurdod lleol nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol
- Rhywun nad yw wedi bod yn aelod o unrhyw awdurdod lleol nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol yn ystod cyfnod o ddeuddeg mis a ddaw i ben gyda dyddiad y penodiad
- Rhywun nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog unrhyw awdurdod lleol.
Yn ogystal â bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol. Hefyd, bydd angen iddynt ddeall y 7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) ac ymrwymo iddynt, a bydd angen iddynt feddu ar y priodweddau a’r nodweddion canlynol:
- Diddordeb a gwybodaeth/profiad o gysyniadau a safonau ariannol, rheoli risg a pherfformiad, archwilio a chyfrifyddu, a chyfundrefn reoleiddio Cymru;
- Meddwl gwrthrychol ac annibynnol, agwedd ddiduedd a’r gallu i ddefnyddio disgresiwn;
- Yn gefnogol i egwyddorion llywodraethu da a’r modd y gellir eu rhoi ar waith er mwyn cyflawni amcanion sefydliadol;
- Y gallu i feddwl yn strategol gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol;
- Y gallu i ddeall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch.
Nid yw’n ofynnol i ddarpar ymgeiswyr feddu ar wybodaeth fanwl am lywodraeth leol, ond byddai disgwyl iddynt fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â gwasanaethau a bywyd cyhoeddus. Ers mis Mai 2022, caiff y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei gadeirio gan Unigolyn Lleyg, felly byddai parodrwydd a gallu i fynd i’r afael â’r rôl hon yn ddymunol.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 26 Mehefin 2024.
Ymgeisiwch i ddod yn Aelod Lleyg
Os oes gennych ddiddordeb neu brofiad mewn llywodraethu, archwilio, rheoli perfformiad neu reoli risg, ac os ydych yn dymuno helpu’r Cyngor i sicrhau y caiff ei lywodraethu’n effeithiol, cwblhewch ffurflen gais a’i dychwelyd i: