Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Cyflwynwyd deddf o’r enw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn 2016. Mae wedi creu nodau i bob awdurdod lleol wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal. Bydd y Ddeddf yn gwneud i’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf wneud y canlynol:
- meddwl mwy am y tymor hir
- gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd
- ceisio atal problemau
- gweithredu’n fwy unedig
Bydd y gyfraith newydd yma’n golygu bod rhaid i’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf weithredu mewn ffordd gynaliadwy.
Mae’r Ddeddf wedi sefydlu saith nod llesiant i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth. Er mwyn cyflawni’r rhain, mae’r Ddeddf yn gosod gofyniad cyfreithiol ar weinidogion Cymru i bennu dangosyddion cenedlaethol fel cyfrwng i fesur cynnydd.