Cynllun Corfforaethol
Mae ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2023-28 yn nodi blaenoriaethau’r cyngor a sut fyddwn yn gweithio ochr yn ochr â phobl a phartneriaid lleol i gyflwyno gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r cynllun, ‘Cyflawni gyda’n Gilydd’, wedi’i ddylunio i fod yn haws i bobl ymgysylltu ag ef.
Mae wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio adborth gan staff, trigolion o bob oed a chefndir, defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau’r cyngor, aelodau etholedig, sefydliadau partner, awdurdodau lleol eraill, a mwy.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwmpasu tua 100 milltir sgwâr gyda phoblogaeth o 145,760 (Data o gyfrifiad 2021).
Mae ein daearyddiaeth yn amrywiol, gyda chymoedd hardd yn y gogledd a 12.5 milltir o arfordir a thraethau yn y de.
Mae’r M4 yn rhedeg drwy ganol y Fwrdeistref Sirol, ac mae gennym gysylltiadau rheilffordd prif linell reilffordd i Gaerdydd a Llundain i’r dwyrain, ac i Abertawe yn y gorllewin.
Mae ein hasedau yn ein helpu i gadw ein cymunedau wedi’u cysylltu a’u cefnogi. Heb ein tir, ein hadeiladau a’n ffyrdd a llwybrau troed, ni fyddem yn gallu darparu’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau.
Rydym yn cynnal 882 cilometr o rwydwaith ffyrdd a 613.72 cilometr o hawliau tramwycyhoeddus hefyd, sy’n cynnwys llwybrau troed. Mae hyn yn bellach na’r pellter o Ben-y-bont ar Ogwr i John O’Groats!
Ein harian
Byddwn yn gwario dros £485 miliwn yn 2023/24. Datblygwyd y blaenoriaethau yn y cynllun law yn llaw â chynlluniau ariannol manwl iawn, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu fforddio eu cyflawni.
Mae llawer o gyllideb eich Cyngor yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac mae llai nag un rhan o bump yn dod o’r Dreth Gyngor.
Sut mae’n cyllideb yn cael ei gwario? - Mae bron i hanner cyllideb eich Cyngor yn cael ei gwario ar ein hysgolion ac mae chwarter arall yn cael ei gwario ar wasanaethau cymdeithasol a llesiant.
Gallwch weld y manylion yn y siart isod.
Ein huchelgais ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dros y pum mlynedd nesaf, rydym am fuddsoddi yn y pethau cywir, y pethau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac sy’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf gennych chi.
Pum ffordd o weithio eich Cyngor chi:
- Defnyddio adnoddau’n well ac yn eu targedu’n well
- Un Cyngor, yn gweithio gyda’n gilydd a chyda phartneriaid
- Gwella cyfathrebu, ymgysylltu ac ymatebolrwydd
- Cefnogi a grymuso cymunedau
- Gwarchod y gwasanaethau sydd bwysicaf i chi
7 Amcan Llesiant eich Cyngor
- Bwrdeistref Sirol lle rydym yn diogelu’r rhai mwyaf agored i niwed
- Bwrdeistref Sirol gyda gwaith teg, swyddi medrus o ansawdd uchel a threfi
- Bwrdeistref Sirol lle mae cymunedau’r cymoedd yn ffynnu
- Bwrdeistref Sirol lle rydym yn helpu pobl i gyflawni eu potensial
- Bwrdeistref Sirol sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur
- Bwrdeistref Sirol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed ac yn rhan o’u
- Bwrdeistref Sirol lle rydym yn cynorthwyo pobl i fyw bywydau iach a hapus
Cynllun Corfforaethol 2018 i 2023 a Adolygwyd am 2021 i 2022
Targedau diwygiedig y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22
Cyllun Corfforaethol ar Dudalen
Cyllun Corfforaethol 2018 i 2022 a Adolygwyd ar gyfer 2020-21 gyda newidiadau ôl COVID
Cyllun Corfforaethol ar Dudalen 2018 i 2022
Cynllun Corfforaethol 2018 i 2022 a Adolygwyd am 2020 i 2021
Cynllun Corfforaethol ar Dudalen 2018 i 2022 a Adolygwyd am 2020 i 2021
Cynllun Corfforaethol 2018-2022 wedi’i adolygu ar gyfer 2019 i 2020
Cynllun Corfforaethol 2018 i 2022
Crynodeb o Gynllun Corfforaethol 2018 i 2020
Cynllun Corfforaethol 2016 i 2020, Adolygwyd ar gyfer 2017 i 2018
Cynllun Corfforaethol 2016 i 2020
Crynodeb o Gynllun Corfforaethol 2016 i 2020
Cynllun Corfforaethol 2013-2017 (2015-2016)
Crynodeb o Gynllun Corfforaethol 2013-2017 (2015-2016)
Cynllun Corfforaethol 2013-2017 (2014-2015)
Crynodeb o Gynllun Corfforaethol 2013-2017 (2014-2015)
Cynllun Corfforaethol 2013-2017 (2013-2014)
Cynllun Corfforaethol 2013-2017 (2013-14): Ymateb Cyngor
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i adborth yr ymgynghoriad