Profi Cymunedol
Nid yw un o bob tri o bobl sydd â Covid-19 yn gwybod ei fod ganddynt. Bydd profi cymunedol yn helpu i adnabod achosion asymptomatig (heb symptomau) ac yn atal y feirws rhag lledaenu.
Gall pawb dros 11 oed sy’n byw, astudio neu’n gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael prawf Covid-19 am ddim os nad oes ganddynt symptomau. Mae hyn yn cynnwys pawb sy’n ymweld â’r fwrdeistref sirol.
Pwy all gael prawf
Oes gennych chi unrhyw symptomau Covid-19? Gall y rhain gynnwys:
- peswch sych, ailadroddus
- tymheredd uchel
- colli neu newid yn eich synnwyr arogli neu flasu
Os mai 'oes' yw'r ateb i unrhyw un o'r uchod, ni ddylech fynychu canolfan frechu gymunedol.
Os oes gennych chi symptomau Covid-19 mae'n rhaid i chi hunanynysu a threfnu prawf cartref neu apwyntiad mewn uned profi symudol drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru. Gallwch hefyd ffonio 119.
Os mai 'nac oes' yw'r ateb a’ch bod yn byw, yn gweithio neu’n astudio yn un o’r ardaloedd sydd wedi’u rhestru, gallwch ddod i ganolfan brofi gymunedol yn eich ardal chi.
Profion Covid-19 i bobl sy’n methu gweithio gartref.
Gallwch gael cit hunanbrofi Covid-19 cyflym am ddim os nad ydych yn gallu gweithio gartref. Mae'r profion asymptomatig ddwywaith yr wythnos ar gael i bobl sy’n methu gweithio gartref a'u teuluoedd i’w casglu o Faes Parcio'r Ganolfan Bowls ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhwng 8am ac 1pm, saith diwrnod yr wythnos. Does dim angen apwyntiad.
Ar ôl casglu'r profion, bydd angen i bobl wedyn fynd â'r prawf adref i'w ddefnyddio, nid yw’r profion yn cael eu gwneud yn y ganolfan brofi.
Mae angen cofnodi canlyniadau pob prawf – negatif a phositif – ar wefan y Llywodraeth.
Ble mae cael prawf
Mae canolfannau profi cymunedol ar gael yn y lleoliadau canlynol ar yr amseroedd a'r dyddiadau canlynol:
Lleoliad | Cyfeiriad | Amseroedd Agor | Dyddiadau Agor |
Ogmore Valley Life Centre | Aber Road, Ogmore Vale CF32 7AJ |
Llun - Gwener 9.30am i 6.30pm Sadwrn a Sul 10am i 4pm |
Dydd Mercher 7 Ebrill tan ddydd Mawrth 13 Ebrill |
Evergreen Hall | Angel Street, Bridgend CF31 4AD |
Llun - Gwener 9.30am i 6.30pm Sadwrn a Sul 10am i 4pm |
Dydd Mercher 14 Ebrill tan ddydd Mawrth 20 Ebrill |
Awel-Y-Mor Community Centre | Hutchwns Terrace, Porthcawl CF36 5TP |
Llun - Gwener 9.30am i 6.30pm Sadwrn a Sul 10am i 4pm |
Dydd Mercher 21 Ebrill tan ddydd Mercher 28 Ebrill |
Nid oes angen i chi drefnu apwyntiad. Canolfannau galw heibio yw'r rhain.
Beth i'w ddisgwyl
Pan fyddwch yn cyrraedd canolfan brofi gymunedol bydd angen i chi gofrestru.
Bydd angen i chi ddod â ffôn / dyfais glyfar i gofrestru eich hun.
Os nad oes gennych chi fynediad at ffôn / dyfais glyfar, siaradwch ag aelod o staff.
I gofrestru, bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
- eich enw
- eich cyfeiriad
- eich rhif ffôn symudol
- eich e-bost
Cael Prawf
Bydd aelod o staff yn eich hebrwng chi i flwch profi mewn canolfan brofi gymunedol.
Mae'r prawf yn cynnwys cymryd swab. Bydd staff yn dangos i chi beth sydd angen i chi ei wneud i gwblhau'r prawf. Mae pob blwch yn cynnwys canllaw cam wrth gam hefyd. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd i gwblhau’r prawf.
Unwaith bydd eich prawf wedi'i gwblhau, byddwch yn derbyn neges destun neu e-bost yn fuan i ddweud wrthych chi am ganlyniad y prawf. Os yw'r canlyniad yn bositif, bydd angen i chi hunanynysu ar unwaith, a threfnu prawf coronafeirws llawn.
Drwy gael y prawf hwn, rydych chi’n cefnogi'r frwydr yn erbyn y coronafeirws. Diolch i chi am helpu i gadw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiogel.
Cwestiynau Cyffredin am brofi cymunedol
Mae tua 20,000 o drigolion yn byw yn yr ardaloedd sydd wedi'u dewis ar gyfer profi cymunedol. Maent yn cynnwys rhai o'r cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan gyfraddau uchel o heintiau Covid-19.
Nod profi cymunedol yw diogelu'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf a dod o hyd i achosion asymptomatig (heb symptomau). Bydd hyn yn helpu'r fwrdeistref sirol i ddychwelyd i normal cyn gynted â phosibl.
Bydd angen i chi ddod â ffôn / dyfais glyfar i gofrestru. Bydd angen i chi allu darparu rhif ffôn symudol neu roi eich cyfeiriad e-bost. Os nad oes gennych chi ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost, bydd angen i chi ddychwelyd i'r safle. Mae hyn er mwyn i chi allu cael canlyniad eich prawf.
Rydym yn annog unigolion i hunangofrestru gan ddefnyddio ffôn/dyfais glyfar os oes modd. Bydd hyn yn cyflymu'r broses a gall helpu i’ch symud chi’n gyflym i'r cam profi.
Os na allwch hunangofrestru, bydd y staff yn gofyn i chi roi eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn symudol, neu gyfeiriad e-bost dilys wrth y pwynt gofrestru, fel eich bod yn gallu cofrestru a chael canlyniadau'r prawf.
Yn anffodus, ni allwn ragweld pa mor hir fydd y ciwiau neu'r aros. Cofiwch y bydd mesurau diogelwch yn eu lle. Rhaid i bawb sy'n dod am brawf gadw pellter cymdeithasol o 2m a gwisgo gorchudd wyneb.
Bydd, rhowch wybod i'r staff er mwyn cael symud yn gyflym drwy’r ciw neu gael mynedfa arall. Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac angen gadael y ciw, rhowch wybod i aelod o staff.
Na fydd, nid yw'r prawf yn brifo – ond gall fod ychydig yn anghyfforddus, ond dim ond am ychydig eiliadau.
Gallwch gael profion rheolaidd tra mae’r cyfleuster profi yn eich ardal.
Nac oes. Nid oes system archebu ar gyfer y math yma o brofi. Cyn belled nad oes gennych chi unrhyw symptomau, gallwch alw heibio un o'r canolfannau profi.
Rydym yn annog pawb sy'n gymwys i gael prawf. Bydd llawer o bobl yn deall manteision cael prawf er mwyn lleihau trosglwyddo'r feirws.
Bydd profi cymunedol yn rhoi darlun mwy cywir o'r feirws mewn ardaloedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn dod o hyd i bobl sydd â Covid-19 ac yn cynnig cymorth iddynt sy'n eu helpu i ynysu cyn iddynt ddatblygu symptomau. Bydd hyn yn helpu i leihau nifer y bobl maent yn ei ledaenu iddynt, ac yn lleihau'r gyfradd drosglwyddo er mwyn helpu i gadw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiogel.
Os ydych chi wedi cael prawf positif eisoes yn ystod y 90 diwrnod diwethaf, gallwch gael eich profi eto. Ond os ydych chi’n bositif ac yn eich cyfnod ynysu o 10 diwrnod, ni ddylech gael eich ailbrofi a dylech ddal ati i ynysu.
Bydd pawb yn cael eu profi gan ddefnyddio'r Dyfeisiau Llif Ochrol (LFD) newydd. Gall y profion hyn roi canlyniad o fewn 30 munud, heb fod angen prosesu'r swabiau mewn labordy.
Bydd y rhai sy'n cael eu profi’n rhoi swab iddyn nhw eu hunain ac wedyn yn rhoi'r swab i dechnegydd cymwys i'w brosesu yn y lleoliad gan ddefnyddio'r offer Llif Ochrol.
Ar ôl cwblhau'r prawf, gofynnir i bobl adael y ganolfan a byddant yn cael eu canlyniad drwy neges destun neu e-bost.
Peidiwch â mynd i unrhyw adeiladau cyhoeddus cyfagos oherwydd gallech fod yn lledaenu'r feirws os byddwch yn profi'n bositif.
Gall y Prawf Llif Ochrol (LFT) roi canlyniad o fewn 30 munud, heb fod angen prosesu'r swab mewn labordy.
Os byddwch yn profi'n bositif drwy brawf LFT bydd angen i chi gael prawf swab PCR traddodiadol. Bydd canlyniad y prawf swab PCR yn cymryd mwy o amser, oherwydd bydd yn cael ei brosesu mewn labordy. Mae'r canlyniad fel arfer yn barod mewn ychydig ddyddiau.
Mae canlyniad prawf llif ochrol yn cael ei anfon drwy neges destun neu e-bost. Bydd canlyniad prawf swab PCR yn dod drwy neges destun neu e-bost hefyd.
Nac oes, bydd canlyniad y prawf yn cael ei anfon drwy neges destun neu e-bost a dylech ei dderbyn o fewn 30 munud.
Os ydych chi wedi derbyn canlyniad Prawf Llif Ochrol positif, bydd angen i chi nawr gael prawf swab Adwaith Cadwyn Polymeras (PCR) traddodiadol. Bydd hwn yn cadarnhau bod gennych chi Covid-19. Mae'n rhwyd ddiogelwch i sicrhau nad ydym yn gofyn i bobl ynysu pan nad oes angen efallai.
Cewch wybod am y camau nesaf pan fyddwch yn derbyn canlyniad y prawf LFD.
Os bydd y prawf PCR cadarnhau yn dod yn ôl yn bositif hefyd, mae'n rhaid i chi ddal ati i ynysu am 10 diwrnod (ers eich Prawf Llif Ochrol cychwynnol). Os yw canlyniad y prawf PCR cadarnhau yn negatif, nid oes angen i chi ynysu mwyach.
Bydd olrhain cysylltiadau drwy'r tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn cael ei sefydlu a bydd cysylltiadau'r achos positif yn cael gwybod bod angen iddynt fynd i gwarantin am 10 diwrnod.
Bydd angen i chi barhau i ddilyn y mesurau ataliol sy’n cael eu hargymell ar hyn o bryd ar gyfer atal lledaeniad y feirws yng Nghymru.
Os bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych am hunanynysu, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol drwy Gynllun Taliad Cymorth Hunanynysu Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych chi Covid-19 mae'n rhaid i chi hunanynysu am 10 diwrnod. Bydd angen i bawb arall yn eich cartref a'ch cysylltiadau agos hunanynysu hefyd am 10 diwrnod.
Bydd canlyniadau profion positif yn cael eu casglu gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru ac maent yn cael eu cyhoeddi fel rhan o niferoedd yr achosion dyddiol. Mae hyn yn cynnwys faint o achosion positif sydd wedi’u canfod gyda'r dull newydd yma o brofi. Dim ond canlyniadau'r prawf swab PCR y mae posib eu mewnbynnu i'r ap. Nid oes posib ychwanegu canlyniadau'r prawf dyfais llif ochrol at yr ap.
Cynllun pedair wythnos yw hwn i ddechrau. Caiff ei adolygu ar ddiwedd y cyfnod yma. Bydd unrhyw benderfyniad am ehangu pellach yn seiliedig ar y data sydd ar gael bryd hynny.
Nac oes. Mae gennym ni gapasiti i gynnal miloedd o brofion llif ochrol a phrofion PCR bob dydd.
Na. Mae'r holl brofion Covid-19 sy'n rhan o'r cynllun peilot yn brofion am ddim. Ni ddylid gofyn i unrhyw un am unrhyw daliad am brofion neu frechiadau Covid 19.