Cefnogaeth i blant agored i niwed
Ffoniwch ein llinell gyngor ar gyfer plant agored i niwed
Os ydych chi’n bryderus am blentyn agored i niwed, mae ein llinell gymorth yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi a allai atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu.
Cyswllt
Cefnogaeth yn ystod y pandemig
Mae plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn derbyn parseli bwyd yn uniongyrchol i gartref bob plentyn yn awr gan weithredwyr cludiant ysgolion. Maent yn cael gwerth pum diwrnod o fwyd, ar gyfer brecwast a chinio bob dydd.
Mae plant ar y gofrestr amddiffyn plant yn parhau i dderbyn cyswllt a chefnogaeth gan ein timau gofal cymdeithasol. Hefyd maent yn cael cyswllt rheolaidd ar Skype a thros y ffôn.
Mae gan ysgolion gynlluniau gweithredu unigol ar gyfer dysgwyr agored i niwed. Maent yn cysylltu â hwy’n gyson ac yn monitro eu llesiant ar e-bost, dros y ffôn a thrwy ddulliau eraill ar-lein. Gall plant agored i niwed ddefnyddio hybiau gofal plant mewn argyfwng ac ysgolion arbennig.
Mae ein Gwasanaeth Cynhwysiant, y Tîm Ar Ffiniau Gofal a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn dod i gysylltiad rheolaidd â phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Maent yn parhau i ddarparu cyngor ac arweiniad.
Cysylltir ag achosion critigol bob yn ail ddiwrnod ac mae asesiadau risg yn cael eu cynnal, fel bod modd cynnal ymweliadau personél os oes angen. Mae’r gwasanaethau help cynnar yn cadw mewn cysylltiad agos â phlant.
Cefnogaeth Coronafeirws yr NSPCC
Mae gan wefan a byrddau negeseuon Childline dudalennau newydd am y Coronafeirws a chyngor am ymdopi. Hefyd mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth a chefnogaeth. Yn benodol, mae llinell gymorth Childline ar gael i blant siarad yn uniongyrchol gyda rhywun dros y ffôn neu ar e-bost.
Cysylltu
Rhif Ffôn: 0800 1111
9am tan 12pm
Fel ymateb i’r Coronafeirws, mae Adran Gwasanaethau Plant yr NSPCC wedi symud ar-lein. Gall staff gysylltu â phlant a theuluoedd drwy dechnoleg yn unig.
Mae’r NSPCC yn cynnig sesiynau diogelwch ar-lein i blant 9 i 13 oed sy’n derbyn gofal ac sy’n agored i Wasanaethau Plant yr Awdurdod Lleol. Bydd y sesiynau’n edrych ar fywyd ar-lein i berson ifanc a sut gall fod yn effeithio arno. Dyma’r pynciau sy’n cael sylw:
- cyfryngau cymdeithasol
- caniatâd
- gofod ar-lein
- ymwybyddiaeth o risg bosib
- gofyn am gefnogaeth a help
Bydd gofalwyr yn cael cefnogaeth ychwanegol yn ôl yr angen i esbonio pryderon. Byddant yn cael amser i gael arweiniad a chefnogaeth.
Cefnogaeth iechyd meddwl i famau beichiog neu gyplau
Mae’r gefnogaeth hon ar gyfer pobl â gorbryder neu iselder ysgafn neu gymedrol. Mae’r rhaglen yn lleihau effaith gorbryder ac iselder ar y rhieni eu hunain ac felly’n helpu pobl i greu perthynas bositif gyda’u babanod heb eu geni. Bydd y gwasanaeth hwn hefyd yn ystyried effaith Covid-19.
Rhaglen camfanteisio’n rhywiol ar blant i bobl ifanc
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu risg o gamfanteisio’n rhywiol ar blant neu sy’n profi hynny. Defnyddiwch yr wybodaeth gyswllt isod i gael gwybod mwy.
Bydd yr NSPCC yn parhau i gyflwyno ei raglen gymdeithasol ac addysgol ‘Gwarchod a Pharchu’, ond mae wedi cael ei haddasu yn awr ar gyfer ei chyflwyno ar lefel un i un.
Gwasanaeth i gynyddu diogelwch ar-lein
Enw gwasanaeth yr NSPCC i roi hwb i ddiogelwch ar-lein yw ‘In Ctrl’. Ei nod yw helpu plant a phobl ifanc rhwng 9 ac 13 oed.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys asesiad cychwynnol i ganfod anghenion penodol plentyn a’i riant/ gofalwr. Wedyn mae tri sesiwn 40 munud i ddatblygu ffyrdd effeithiol o leihau risg a gwella gweithgarwch ar-lein diogel. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal dros y ffôn neu ar y we drwy alwad fideo.
Cofrestru i’r sesiynau uchod
Gallwch ymuno â’r sesiynau uchod drwy ffonio’r rhif isod.
Cyswllt
Rhif Ffôn:
02920 108080
Mae’r sefydliadau yma’n cynnig gweminarau cyflwyniadol 30 munud am ddim am gadw teuluoedd yn ddiogel ar-lein. Mae’r gweminarau’n tynnu sylw at y risgiau y gall plant eu hwynebu ar-lein wrth gynnig cyngor ymarferol a chyfeirio at help a chefnogaeth. Cofrestrwch ar parentworkshops@nspcc.org.uk.
Nid yw’r cartref bob amser yn ddiogel i blant, a gall hyn fod yn wir iawn yn ystod cyfnod o drais domestig cynyddol. Mae llinell gymorth yr NSPCC ar gael i oedolion sy’n bryderus am blentyn neu berson ifanc. Bydd eu gweithwyr proffesiynol cymwys yn siarad drwy eich pryderon, yn rhoi cyngor arbenigol ac yn gweithredu’n briodol er mwyn amddiffyn y plentyn.
Cyswllt
Rhif Ffôn: 0808 800 5000
E-bost: help@nspcc.org.uk