Cyflenwad dŵr yn ystod pandemig y Coronafeirws
Oherwydd y pandemig, nid yw Dŵr Cymru yn cyfarfod pobl mwyach i drafod help gyda biliau. Fodd bynnag, mae eu cefnogaeth yn parhau fel isod.
Anhawster gyda biliau
Os nad ydych chi’n gallu talu ffioedd, efallai y gallwch wneud y canlynol:
- gwneud cais am fesurydd dŵr
- llenwi ffurflen help i gael galwad yn ôl i siarad am y sefyllfa
- cysylltu â’r ganolfan alwadau ar 0800 052 0145 am gyngor
- cael rhagor o help ar dudalen Dŵr Cymru am anhawster ariannol yn ystod y pandemig
Prinder dŵr a hunan-ynysu Os ydych chi’n hunan-ynysu neu’n cadw pellter cymdeithasol a bod eich cyflenwad dŵr yn torri, gallwch ofyn i Dŵr Cymru sicrhau bod atgyweirio eich cyflenwad yn flaenoriaeth. Bydd hyn yn eich cadw chi rhag gorfod mynd allan i brynu dŵr potel.
Cysylltu
Dŵr Cymru
E-bost:
workingpartnership@dwrcymru.com
Ffôn:
0800 052 0145
Oriau agor:
Llun i Wener 9am i 5pm.