Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

E-byst ac archebion prynu twyllodrus

Hoffai’r cyngor eich rhybuddio am sgam twyll sy’n targedu cyflenwyr offer presennol a phosibl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r sgam yn gweithio yn y ffordd ganlynol:

  1. Bydd cyflenwr yn derbyn e-bost neu alwad ffôn yn gofyn am ddyfynbris ar gyfer eitem/au penodol o offer. Gall y rhain fod mewn symiau mawr neu fach, ac o werthoedd isel neu uchel.
  2. Ar ôl cynnig dyfynbris, mae archeb brynu’n cael ei e-bostio i’r cyflenwr sy’n edrych fel archeb brynu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dilys
  3. Fel arfer, mae’r archeb brynu’n nodi cyfarwyddiadau danfon i gyfeiriad y tu allan i fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nad yw’n gysylltiedig â’r cyngor. Mae hefyd yn gofyn am y nwyddau ar delerau net 30 diwrnod.
  4. Ar ôl cludo’r eitem/au o offer, nid yw’r cyflenwr yn derbyn taliad, ac yn methu ag adfer y nwyddau a gludwyd.

Adnabod e-byst ac archebion prynu twyllodrus

Bydd y canlynol yn amlwg yn yr e-byst ac archebion prynu twyllodrus hyn:

  • Bydd enw parth anghywir yn cael ei ddefnyddio i anfon yr e-byst ac archebion prynu hyn. Sicrhewch eich bod yn gwirio fod yr archeb yn ddilys gyda’r cyngor. Bydd pob e-bost dilys gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei anfon o’r parth bridgend.gov.uk.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd y cyfeiriad danfon yn gyfeiriad cyngor dilys. Fel arfer, bydd cyfeiriadau twyllodrus yn gyfeiriad domestig neu'n gyfleuster hunan-storio, yn aml yn unlle sy’n agos at gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, sydd fel arfer yn cael ei newid gyda'r cyflenwr cyn i'r nwyddau gael eu danfon.
  • Yn aml, bydd yr e-bost wedi’i ysgrifennu’n wael gyda chamgymeriadau gramadegol, sillafu neu ieithyddol.
  • Bydd yr e-bost hwn yn aml yn defnyddio enwau aelodau uwch dîm reoli’r cyngor, gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol. Noder na fydd uwch swyddogion byth yn bwynt cyswllt cyntaf mewn ymholiad prynu. Cysylltwch ag aelod o dîm caffael y cyngor i wirio dilysrwydd unrhyw gais. Peidiwch â chysylltu â’r enw/rhif a ddefnyddiwyd ar yr e-bost/archeb brynu.
  • Gall yr archeb fod ar gyfer amryw o gynnyrch, ac ar gyfer cynnyrch nad ydynt fel arfer yn cael eu prynu gan y cyngor.
  • Gellir gofyn am symiau amrywiol ond bydd llawer ar gyfer archebion mawr
  • Gall archebion ofyn i gludo’r nwyddau fel blaenoriaeth neu dros nos

Os ydych byth yn ansicr am gais am ddyfynbris a anfonir drwy e-bost, neu'r archeb brynu ddilynol, cysylltwch â Thîm Caffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu gyswllt hysbys o fewn y cyngor. Peidiwch â cheisio ffonio unrhyw rifau ffôn sy’n cael eu cynnwys o fewn e-byst twyll sy’n honni eu bod yn rhifau cyngor dilys, gan y gallant gynnwys ffioedd gwasanaeth drud.

Cyngor i gyflenwyr

Yn ogystal â’r wybodaeth uchod, dylai cyflenwyr nodi’r canlynol:

  • Os ydych byth yn ansicr am gais am ddyfynbris a anfonir drwy e-bost, neu'r archeb brynu ddilynol, cysylltwch â’n tîm caffael neu gyswllt hysbys o fewn y cyngor.
  • Peidiwch â cheisio ffonio unrhyw rifau ffôn sy’n cael eu cynnwys o fewn e-byst twyll sy’n honni eu bod yn rhifau cyngor dilys, gan y gallant gynnwys ffioedd gwasanaeth rhyngwladol drud.
  • Ymgynghorwch â'ch cynghorwyr TG neu ddiogelwch eich hun i sicrhau bod pawb yn cael gwybod sut i adnabod cyfathrebiad amheus
  • Adroddwch yr achos i Action Fraud, canolfan adrodd twyll a throsedd seiber cenedlaethol y DU yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gallwch adrodd unrhyw dwyll neu drosedd seiber gan ddefnyddio eu gwasanaeth adrodd ar-lein ar unrhyw adeg; mae'r gwasanaeth yn galluogi cyflenwyr i adrodd twyll a dod o hyd i help a chymorth. Gallwch hefyd ofyn am help drwy ffonio 0300 123 2040 i siarad â’u harbenigwyr twyll a throsedd rhyngrwyd. Pan fyddwch yn adrodd i Action Fraud, byddwch yn derbyn rhif cyfeirnod trosedd heddlu. Mae adroddiadau sy’n cael eu derbyn yn cael eu trosglwyddo i’r Swyddfa Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol. Nid yw Action Fraud yn ymchwilio i achosion ac nid ydynt yn medru eich cynghori ar gynnydd achos.

Yr hyn rydym yn ei wneud

Mae’r cyngor yn adrodd pob achos o weithgaredd twyllodrus hysbys i Heddlu De Cymru ac Action Fraud.

Mae’r tîm cyllid a chaffael o fewn y cyngor wedi cael gwybod am y gweithgaredd twyllodrus hwn ac yn parhau’n wyliadwrus. Rydym yn casglu tystiolaeth o bob achos a adroddir. Os ydych wedi derbyn unrhyw e-byst amheus, rydym yn gofyn i chi eu hanfon ymlaen at Uwch Ymchwilydd Twyll y cyngor, Simon Roberts at simon.roberts@bridgend.gov.uk fel bod y rhain yn cael eu hychwanegu at y ffeil dystiolaeth.

Rydym yn cysylltu â chyflenwyr presennol a all fod yn darged ar gyfer y math hwn o weithgaredd twyllodrus er mwyn codi ymwybyddiaeth. Rydym hefyd yn cadw holl aelodau perthnasol staff y cyngor yn ymwybodol o'r holl weithgareddau a'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa hon.

 



Chwilio A i Y