Cyngor pandemig Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Cyfle i gael y newyddion diweddaraf ar dudalen benodol Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar y we. Hefyd gallwch ddilyn yr Asiantaeth ar Twitter gan ddefnyddio @VOAgovuk.
Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae’r asiantaeth yn parhau i weithredu mor agos i normal â phosib, ond mae’n debygol o gymryd mwy o amser nag arfer i ymateb. Nid yw’n gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am achosion. Er hynny, mae’n cadarnhau ei bod yn eu hadolygu, ac y bydd yn cysylltu yn fuan.
Ceisiadau am fewnosod eiddo trethi annomestig newydd, rhaniadau ac uno, newidiadau i eiddo
Os yw’r wybodaeth angenrheidiol wedi cael ei rhoi, mae’r asiantaeth yn codi adroddiadau ac yn darparu dolenni ar gyfer trethdalwyr i gael gwybod y canlynol:
- mwy am ardrethi busnes sy’n cael eu cyfrif ar gov.uk
- y gefnogaeth ddiweddaraf sydd ar gael i fusnesau oherwydd COVID-19 ar gov.wales
Hefyd mae’r asiantaeth yn tynnu sylw at y cynlluniau grantiau busnes. Os nad oes gwybodaeth ddigonol wedi’i rhoi i benderfynu a oes angen newid, mae’r asiantaeth yn gofyn i gwsmeriaid am ragor o fanylion.
Newid i werth trethadwy i gymhwyso am ostyngiad
I adolygu eich gwerth trethadwy, mae’r asiantaeth eisiau gwybod a oes unrhyw fanylion wedi newid. Felly rydym yn gofyn i gwsmeriaid edrych ar fanylion yr eiddo sydd ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Os nad yw eich eiddo wedi newid neu os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad, gallwch apelio yn erbyn gwerth trethadwy eich eiddo ar-lein.
Asesu tŷ gwyliau ar gyfer ardrethi busnes
Pan fyddwch yn gwneud cais ar gyfer hyn, gofynnir i chi am y canlynol:
- am faint o ddyddiau mae’r eiddo ar gael ar gyfer ei osod bob blwyddyn
- faint o ddyddiau gafodd eu gosod y llynedd
- am ddolen i’r gwefannau lle mae’r eiddo’n cael ei hysbysebu ar gyfer defnydd
Hefyd, defnyddiwch yr wybodaeth ar dudalen llywodraeth y DU ar y we am asesu tŷ gwyliau ar gyfer ardrethi busnes.
Cartrefi sy’n cael eu hasesu ar gyfer ardrethi busnes
Ar gyfer hyn, bydd yr asiantaeth yn gofyn am ragor o fanylion am eich eiddo a’i ddefnydd. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar dudalen llywodraeth y DU am ardrethi busnes ar gyfer gweithio o gartref.