Bob blwyddyn rydym yn adolygu ein Cynllun Corfforaethol, sy'n nodi’r hyn rydym am ei wneud i wella bywydau preswylwyr, sut y byddwn yn mynd ati i gyflawni hynny a sut y byddwn yn mesur ein llwyddiant.
Mae'r Strategaeth Ddigidol pedair blynedd uchelgeisiol hon yn nodi sut y byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae adnoddau digidol yn eu cyflwyno i ni.
Mae’r fframwaith hwn, a luniwyd i bawb sydd ynghlwm wrth gyflawni’r canlyniadau yr ydym ni’n dymuno eu cyflawni, yn nodi ein dull systematig o reoli perfformiad, gan gysylltu darpariaeth gwasanaethau â’n gweledigaeth a’n blaenoriaethau.
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r targed Sero Net erbyn 2030, ac yn cydnabod y rôl arweiniol ar lefel ehangach, o safbwynt galluogi busnesau a chymunedau’r sir i gyflawni Sero Net.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i egwyddorion llywodraethu corfforaethol da. Mae dyletswydd arno i wneud trefniadau priodol ar gyfer llywodraethu ei faterion, sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd mae ei swyddogaethau yn cael eu cyflawni a chael trefniadau cadarn ar waith ar gyfer rheoli risg.
Gyda dewis eang o sianeli ar gael i ni, rydym am sicrhau ein bod yn cynnig y cyfle gorau i wrando ar, ac ymateb i farn pobl ac ymgysylltu â phob aelod o'n cymuned mewn perthynas â’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar gyfer pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Wedi'i chynhyrchu ar y cyd gyda grŵp o'n plant a'n pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, mae Strategaeth Magu Plant Gorfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi'r hyn y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn ei wneud i fod y rhieni corfforaethol gorau y gallwn ni fod. Mae’r strategaeth yn cynnwys ymrwymiad Aelodau’r Cabinet a swyddogion o sefydliadau partner a fynegir fel addewidion i’n plant a'n pobl ifanc ni sydd â phrofiad o ofal ac ieuenctid sy’n gadael gofal.
Mae’r cynllun strategol hwn yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol gwasanaethau addysg a chymorth i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn dwyn ynghyd ein huchelgeisiau a’n nodau gweithredol i fynd i’r afael ag effaith tlodi a chefnogi pobl i fyw bywydau iachach a llewyrchus.