Help gyda’r system mapio GIS
Mae’r system mapio GIS yn galluogi i chi weld gwybodaeth leol ar fap, fel dalgylchoedd ysgolion a chynghorwyr lleol. Mae hefyd yn dangos gwybodaeth am wasanaethau lleol, fel bysiau.
Chwilio
Gallwch chwilio am leoliad penodol ar fap a’i ddangos. Nid yw’r cyfleuster chwilio’n benodol i lythrennau bach neu brif lythrennau, gallwch ddefnyddio’r ddau fath. I chwilio am leoliad, nodwch y cyfeiriad llawn neu’r cod post a phwyso ‘enter’. Bydd canlyniadau’r chwilio’n cael eu harddangos ar y sgrin. Cliciwch neu dapio’r cyfeiriad cywir i ddangos y map yn y lleoliad hwnnw. Bydd symbol pin gwyrdd ar y map yn y cyfeiriad rydych chi wedi’i ddewis. Os nad yw’r cyfeiriad yn bodoli, bydd neges yn dangos hyn yn cael ei harddangos.
I gael gwared ar yr holl destun o’r bocsys chwilio ar unrhyw adeg, cliciwch ar y botwm ‘X’. Os ydych chi wedi chwyddo i edrych ar leoliad penodol eisoes, bydd ffenest y map yn aros yma nes eich bod naill ai’n chwilio o’r newydd neu’n symud o amgylch y map.
Adnoddau mapiau
Fe welwch chi adnoddau mapiau uwch ben y map. Gallwch ddefnyddio’r adnoddau hyn i ryngweithio’n uniongyrchol gyda’r map, symud o le i le a chael gwybodaeth ychwanegol.
Gwybodaeth Leol
I gael gwybodaeth leol am eich ardal, chwiliwch am eich cyfeiriad neu eich cod post.
Gallwch ddefnyddio gwybodaeth leol i weld:
- dalgylchoedd ysgolion
- eich cynghorydd lleol, yr AC, yr AS neu’r ward etholiadol
Chwyddo
Bydd y botymau yma’n chwyddo i mewn ac yn tynnu allan o’r lleoliad cyntaf yn ôl y gosodiad chwyddo cychwynnol.
Cliciwch ar y '+' i chwyddo i mewn a’r '-' i dynnu allan. Wrth chwyddo, bydd y system yn dangos yn awtomatig y cefndir map Arolwg Ordnans mwyaf priodol ar gyfer y manylder presennol. Olwyn y llygoden sy’n rheoli’r chwyddo yn bennaf.