Ein haddewid i chi
Mae ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydym eisiau sicrhau y gall pob sector o’r gymuned ddefnyddio ein gwasanaethau a’ch bod yn derbyn y lefel uchaf o wasanaeth cwsmeriaid pryd bynnag a sut bynnag y byddwch yn cysylltu â ni. Mae ‘Ein haddewid i chi’ yn nodi’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi yn gyfnewid.
Helpwch ni i wella’n barhaol trwy roi adborth i ni ar y tro diwethaf i chi gysylltu â'r gwasanaethau cwsmeriaid.
Ein gwasanaeth i chi
Byddwn yn:
- pennu safonau gwasanaeth cwsmeriaid ac yn monitro ein perfformiad yn eu herbyn, er enghraifft barn pobl am y gwasanaeth maent yn ei dderbyn yn ein Canolfan Gyswllt a nifer yr ymholiadau yr ydym yn eu datrys dros y ffôn heb orfod eich trosglwyddo chi i adran wahanol
- darparu gwasanaethau hygyrch o ansawdd uchel sy’n hawdd eu defnyddio ac sy’n bodloni eich anghenion
- mynd ati’n barhaus i wella ein gwasanaethau drwy ddeall a bodloni eich anghenion
- ymdrin â phob ymholiad yn brydlon ac yn hyderus
- eich trin â pharch, gonestrwydd a thegwch
- dysgu o’ch adborth, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ac yn ei ddefnyddio i wella gwasanaethau
- sicrhau bod gennym staff proffesiynol a gwybodus
- darparu gwasanaeth hygyrch ac ymatebol sy’n cyflawni ein hymrwymiadau
- creu naws groesawgar yn ein hadeiladau cyhoeddus
- darparu gwasanaeth dwyieithog lle y gall cwsmeriaid gysylltu â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg
- sicrhau bod gennym bolisi a gweithdrefnau cwynion cadarn
Ein gwerthoedd a’n cyfrifoldebau
Byddwn yn:
- hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth
- parhau i wella sgiliau a galluoedd ein pobl
- yn ddiduedd ym mhob achos
- sicrhau bod gan bawb fynediad teg at ein gwasanaethau
- cymryd gofal i gadw’ch preifatrwydd a sicrhau eich diogelwch
- amddiffyn eich gwybodaeth bersonol
Sut y gallwch chi ein helpu ni
Gofynnwn i chi:
- roi’r wybodaeth gywir ar yr adeg gywir
- rhoi gwybod i ni pan fo rhywbeth yn newid
- defnyddio ein gwasanaethau ar-lein pan fo’n bosibl
- bod yn ystyriol ac yn gwrtais i gwsmeriaid eraill
- trin ein staff â pharch
- rhoi adborth i ni ar ein perfformiad
- gofyn i ni esbonio unrhyw beth nad ydych yn siŵr amdano
- Cadw at unrhyw apwyntiad yr ydych wedi’i drefnu â ni (os na allwch fod yn bresennol, rhowch wybod i ni ymlaen llaw)
- parchu ein polisi cyfryngau cymdeithasol
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost neu drwy’r post
Byddwn yn:
- ymateb i’ch e-bost/gohebiaeth ysgrifenedig cyn gynted â phosibl; os na allwn roi ateb llawn i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y camau nesaf a phryd y cânt eu cymryd
- Rydym yn ceisio ysgrifennu mewn iaith syml ac osgoi jargon lle y bo hynny’n bosibl
- ceisio adolygu a gwella ein gwefan a’n gwasanaethau ar-lein yn barhaus gan ddefnyddio eich adborth
- sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i gymaint o bobl ag sy’n bosib, waeth beth fo’r dechnoleg neu’r gallu
- gohebu â chi yn eich dewis iaith – Cymraeg neu Saesneg
- monitro ein prif gyfrifon Twitter, Facebook ac Instagram yn ystod oriau gwaith arferol (ac eithrio gwyliau’r banc a gwyliau cyhoeddus) ac ymateb cyn gynted â phosib
- dileu negeseuon sarhaus sy’n ymddangos ar ein tudalen Facebook cyn gynted â phosibl a chymryd camau i atal cynnwys tebyg rhag ymddangos eto, er enghraifft drwy flocio troseddwyr parhaus
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni dros y ffôn neu ffôn testun
Byddwn yn:
- ceisio ateb eich ymholiad ar unwaith; pan nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu i rywun eich ffonio chi’n ôl gydag ateb o fewn 24 awr, ar adeg sy’n gyfleus i chi
- ceisio eich trosglwyddo unwaith yn unig, pe bai angen cyfeirio eich galwad at adran wahanol
- nodi’n glir ein henw, ein hadran a’n rheswm dros ffonio wrth ffonio’n ôl
Pan fyddwch yn ymweld â ni
Byddwn yn:
- gwneud yn siŵr bod ein derbynfeydd yn hygyrch, yn lân, yn daclus a chydag arwyddion clir (yn Gymraeg ac yn Saesneg)
- gyfeillgar ac yn ddefnyddiol
- eich gweld chi ar amser pan fydd apwyntiad gennych
- arddangos ein horiau agor yn glir
- sicrhau bod yr holl wybodaeth a arddangosir gennym yn cael ei diweddaru a’i chyflwyno’n briodol
- rhoi lle i gwsmeriaid eistedd yn ogystal â chyfleusterau cyfweld preifat, yn ôl yr angen
- gwneud trefniadau cyn gynted â phosibl ar gyfer eich gofynion cyfathrebu penodol, er enghraifft os byddwch angen defnyddio iaith ar wahân i’r Gymraeg neu Saesneg, neu os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw