Cysylltwch â ni
Gallwch ddefnyddio sawl gwasanaeth ar-lein, gan gynnwys gwasanaethau ailgylchu a gwastraff, priffyrdd, trafnidiaeth, rheoli adeiladu, iechyd yr amgylchedd a safonau masnach.
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau: 8:30am i 5pm / Dydd Gwener: 8:30am – 4:30pm
Gallwch gysylltu’n uniongyrchol â ni am nifer o faterion, gan gynnwys budd-daliadau, bathodynnau glas, y dreth gyngor, priffyrdd, tai, pridiannau tir, trwyddedu, cymorth Fy Nghyfrif, cynllunio a rheoli adeiladu, gwastraff ac ailgylchu, rheoli plâu a chofrestrwyr
Ffôn
01656 643643
Wrth ffonio'r ganolfan gyswllt, cofiwch ddewis yr iaith yr hoffech ei defnyddio a gwrando'n astud am yr adran berthnasol.
Cyfeiriad
Swyddfeydd Dinesig,
Stryd yr Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB.
SMS
07581 157014
Rydym hefyd yn cynnig Gwasanaeth Neges Fer ar gyfer cwsmeriaid B/byddar a trwm eu clyw.
Rhowch 18002 cyn unrhyw un o'n rhifau ffôn ar gyfer y gwasanaeth cyfnewid testun.
Tu allan i oriau - 01656 643643
Os ydych chi eisiau cysylltu â ni tu allan i’n horiau agor, byddwch yn cael eich rhoi drwodd i’r Uned Cefnogi Cwsmeriaid a Chymunedau (CCSU). Defnyddiwch ein manylion cysylltu arferol uchod a dewis yr opsiwn ar gyfer cael eich rhoi drwodd.
Er nad ydynt yn gallu cymryd taliadau, gallant helpu gyda rhai materion, gan gynnwys:
- rheoli pla
- problemau ar briffyrdd
- monitro staff sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- monitro maes parcio aml-lawr Rhiw
- cynllunio ar gyfer argyfwng
- argyfyngau tu allan i oriau
- gwarchod y cyhoedd
Cofrestru ar gyfer gwasanaethau Fy Nghyfrif
Gwasanaeth wedi’i bersonol i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Fy Nghyfrif. Mae cofrestru'n gyflym ac yn hawdd a’r cyfan sydd ei angen arnoch i ddechrau yw cyfeiriad e-bost.
Mae defnyddio Fy Nghyfrif i gyflwyno eich ffurflenni yn golygu eu bod yn ein cyrraedd yn syth, gan arbed amser ac arian i chi.
Adborth
Hoffem glywed gennych os ydych wedi cysylltu â'r cyngor gan ddefnyddio unrhyw rai o'r gwasanaethau uchod.