Camerâu Cylch Cyfyng ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Rydym yn gweithredu gamerâu sy’n cofnodi ar raddfa o 30 ffrâm yr eiliad. Rydym yn gweithredu camerâu goruchwylio er mwyn gwneud y canlynol:
- atal a chanfod troseddau
- adnabod troseddwyr i’w harestio a’u herlyn
- lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
- lleihau’r ofn am droseddu
- cadw a datblygu llwyddiant busnes ein canol trefi a’r gymuned ehangach
Cael mynediad i ddeunydd camerâu goruchwylio at ddibenion cyfreithiol
Mae gennych hawl i wneud ‘cais am fynediad i destun data’ o dan Ran 3, Pennod 3 Deddf Diogelu Data GDPR 2018. Bydd y lluniau a roddir o’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais yn unig.
Os yw deunydd yn gallu bod o help gyda mater cyfreithiol, gofynnwch i’r heddlu, eich cyfreithiwr neu eich cwmni yswiriant gysylltu â ni i’w gael. Nid yw’r cyhoedd yn cael mynd i mewn i’r ystafell reoli i weld y lluniau.
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i osod rhagor o gamerâu sefydlog mewn gofod agored cyhoeddus.
Nid ydym yn bwriadu gosod unrhyw gamerâu sefydlog eraill mewn mannau agored cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gennym nifer fechan o gamerâu symudol y gellir eu gosod mewn safleoedd dros dro. Penderfyniad Partneriaeth Diogelwch Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr yw lleoliad y camerâu hyn, mewn ymateb i lefelau uchel o adroddiadau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â saferbridgend@bridgend.gov.uk
Mae pob camera mewn gofod cyhoeddus agored yn gweithio’n llawn ac yn recordio. Os bydd camera’n torri, rhoddir bag dros y camera neu bydd yn cael ei symud nes cael ei atgyweirio.
Nid yw’r Ddeddf Diogelu Data’n berthnasol i ddeiliaid tai sydd â chamerâu ar eu heiddo at ddefnydd personol. Felly gall camerâu ar eich cartref fonitro priffyrdd cyhoeddus, fel rhywun yn rhoi camera ar ei dŷ i fonitro ei gar ar heol y cyngor.
Cewch weld lleoliadau ein camerâu teledu cylch cyfyng ar ein tudalen Open Data.