Sut i bleidleisio
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi pasio deddf fydd yn newid y ffordd rydyn ni'n pleidleisio yn Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Gelwir y ddeddf hon yn Ddeddf Etholiadau 2022.
Nid yw'r ddeddf hon yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr na’r Cyngor Tref a Chymuned. Llywodraeth Cymru sy'n gosod y ddeddfwriaeth ar gyfer y rhain.
Gallwch bleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio leol. Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad sy’n nodi ble mae eich gorsaf bleidleisio. Nid oes raid i chi ailgofrestru ar gyfer pob etholiad oni bai fod eich cyfeiriad wedi newid.
Os ydych chi'n pleidleisio wyneb yn wyneb, bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig nawr mewn gorsafoedd pleidleisio ar draws y fwrdeistref sirol, sy’n cynnwys:
- Pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Gymanwlad
- Trwydded Yrru y DU
- Tocynnau teithio rhatach fel tocyn bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+
Byddwch yn gallu defnyddio ID sydd wedi dod i ben os oes posib eich adnabod chi o hyd o'r ffotograff. Os nad oes gennych chi unrhyw fath dilys o ID, gallwch wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim, sy’n cael ei alw yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Yr oriau pleidleisio yw 7am i 10pm.
Gallwch dderbyn papur pleidleisio i’ch cartref neu i gyfeiriad lle byddwch yn byw yn ystod yr etholiad.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost/pleidlais bost drwy ddirprwy, ac i ddiwygio neu ganslo pleidlais o’r fath, yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad/refferendwm. Gall y ceisiadau fod am bleidlais bost dros dro neu barhaol.
Os ydych chi’n pleidleisio drwy’r post, rhaid i chi lenwi a dychwelyd y datganiad pleidleisio drwy’r post a’r papur pleidleisio. Cyn cau’r pleidleisio, gellir dychwelyd pleidleisiau post:
- drwy’r post
- gyda llaw i swyddfeydd y cyngor
- i’ch gorsaf bleidleisio
Gellir cael papurau pleidleisio drwy’r post newydd yn lle rhai sydd wedi’u colli neu eu difetha o’r swyddfa etholiadol cyn 5pm ar ddiwrnod y pleidleisio.
Sylwer na all pobl a wnaeth gais am bleidleisio drwy’r post ond sydd ddim yn canslo eu cais cyn y dyddiad cau bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.
Rhaid i chi gofrestru fel pleidleisiwr tramor.
Rhaid i’r cofrestru hwn ddigwydd cyn y gallwch bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy. Rhaid i bleidleiswyr tramor adnewyddu eu cofrestriad bob 12 mis ac ni allant bleidleisio mewn etholiadau lleol.
Os ydych chi’n pleidleisio drwy’r post, rhaid i chi sicrhau bod gennych chi amser i dderbyn a dychwelyd eich papurau pleidleisio erbyn y diwrnod pleidleisio. Os ydych chi’n ansicr ynghylch gallu gwneud hyn, gallech benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan.
Lawrlwytho ffurflen pleidleisio drwy ddirprwy.
Ystyr pleidleisio drwy ddirprwy yw bod rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo’n gallu pleidleisio ar eich rhan os nad ydych chi’n bersonol yn gallu pleidleisio.
Wrth wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy newydd, rhaid i’ch cais chi gyrraedd ein swyddfa ni erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn etholiad/refferendwm. Y dyddiad cau i ddiwygio neu ganslo pleidlais drwy ddirprwy/pleidlais bost drwy ddirprwy bresennol yw erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn etholiad neu refferendwm. Gall y ceisiadau fod am bleidlais drwy ddirprwy dros dro neu barhaol. Fodd bynnag, oni bai eich bod yn bleidleisiwr tramor/yn y lluoedd arfog, rhaid i geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy barhaol gael eu cydllofnodi gan un o’r bobl berthnasol a nodir ar y ffurflen.
Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
- nid ydych yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar gyfer etholiad penodol, fel pan rydych ar eich gwyliau er enghraifft
- mae gennych gyflwr corfforol sy’n golygu nad ydych yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
- mae eich cyflogaeth yn golygu nad ydych yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
- mae eich presenoldeb ar gwrs addysgol yn golygu nad ydych yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
- rydych yn ddinesydd Prydeinig sy’n byw dramor
- rydych yn was y goron neu’n aelod o Luoedd Arfog Ei Mawrhydi
Dim ond os yw’n 18 oed neu’n hŷn all y person rydych chi’n dymuno ei benodi fel eich dirprwy weithredu fel eich dirprwy. Hefyd, rhaid iddo fod wedi cofrestru ar gyfer yr etholiad/ refferendwm penodol.
Ni all person fod yn ddirprwy i fwy na dau a bobl mewn unrhyw un etholiad neu refferendwm, oni bai eu bod yn un o’r canlynol i chi:
- priod
- partner sifil
- rhiant
- taid neu nain
- brawd
- chwaer
- plentyn neu ŵyr/wyres
Dylai’r person a benododd y dirprwy ddweud wrtho sut mae eisiau i’r dirprwy bleidleisio yn ei le, o ran ymgeisydd, plaid neu ganlyniad.
Cewch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yr un fath, ar yr amod nad yw eich dirprwy wedi pleidleisio ar eich rhan, neu heb wneud cais am bleidleisio ar eich rhan drwy’r post.
Os ydych chi'n pleidleisio wyneb yn wyneb, bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig nawr mewn gorsafoedd pleidleisio ar draws y fwrdeistref sirol, sy’n cynnwys:
- Pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Gymanwlad
- Trwydded Yrru y DU
- Tocynnau teithio rhatach fel tocyn bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+
Byddwch yn gallu defnyddio ID sydd wedi dod i ben os oes posib eich adnabod chi o hyd o'r ffotograff. Os nad oes gennych chi unrhyw fath dilys o ID, gallwch wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim, sy’n cael ei alw yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Os nad yw dirprwy’n gallu mynd i’ch gorsaf bleidleisio, caiff wneud cais am bleidleisio drwy’r post.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost drwy ddirprwy yw erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn etholiad neu refferendwm.
I wneud cais am ffurflen gais ar gyfer cael pleidlais bost drwy ddirprwy, cysylltwch â’r Swyddfa Etholiadol.
Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio
Bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig.
Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio
Gallwch ddod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio drwy ddefnyddio’ch cod post. Os ydych yn gymwys i bleidleisio dylech hefyd dderbyn cerdyn pleidleisio gyda manylion eich gorsaf bleidleisio. Gall mynd â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi helpu i gyflymu'r broses bleidleisio, ond nid oes angen hyn arnoch i bleidleisio.
Rhaid i chi bleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio, sydd fel arfer gerllaw. Ni allwch bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio os oes gennych bleidlais bost, ond gallwch roi eich pleidlais bost wedi'i chwblhau mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal bleidleisio berthnasol.
Gall gorsafoedd pleidleisio newid o bryd i'w gilydd, felly mae'n bwysig eich bod yn gwirio ble mae angen i chi bleidleisio.
Rhaid i’r ddogfen adnabod â llun fod yn un gymeradwy, fel pasbort neu drwydded yrru.
Derbynnir dogfennau gwreiddiol yn unig. Ni dderbynnir delweddau na chopïau wedi'u sganio.
Os nad ydy eich dogfen adnabod â llun yn gyfredol, byddwn dal yn ei derbyn cyn belled â bod dal modd eich adnabod o’r llun.
Mae'r mathau o ddogfennau adnabod sy’n cael eu defnyddio a’u derbyn yn gyffredinol yn cynnwys:
- Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwlad â statws Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu wlad yn y Gymanwlad
- Trwydded yrru ffotograffig a gyhoeddwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, gwladwriaeth AEE neu wlad yn y Gymanwlad
- Cerdyn adnabod ffotograffig yr AEE
- Cerdyn adnabod ag arno hologram y Cynllun Prawf Oed Safonol (cerdyn PASS)
- Bathodyn Glas
- Pàs Bws Person Hŷn
- Pàs Bws Person Anabl
- Cerdyn Oyster 60+
Os ydych yn ansicr a ydy’r ddogfen adnabod â llun sydd gennych ar hyn o bryd yn cael ei derbyn, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y mathau derbyniol o ddogfennau adnabod ar wefan GOV.UK.
Neu gallwch gysylltu â'n tîm Gwasanaethau Etholiadol am help.
Os nad oes gennych ddogfen adnabod gymeradwy, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr' (TAP) sydd ar gael am ddim.
Gallwch wneud cais ar-lein am TAP drwy fynd i wefan GOV.UK.
Gallwch wneud cais am TAP drwy argraffu a llenwi ffurflen bapur a'i hanfon i'n tîm Gwasanaethau Etholiadol. Gallwch hefyd e-bostio neu ffonio ein tîm Gwasanaethau Etholiadol i ofyn am ffurflen bapur.
Ar ôl i chi dderbyn eich TAP, ni fydd dyddiad dod i ben arni. Fodd bynnag, fe’ch cynghorir i adnewyddu eich TAP mewn 10 mlynedd i sicrhau bod y llun dal i edrych yn debyg i chi.
Y dyddiad cau i wneud cais am TAP fydd 5.00pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.
Yr etholiad nesaf sydd wedi’i drefnu yng Pen-y-bont ar Ogwr lle bydd angen dangos dogfen adnabod â llun neu TAP i bleidleisio, fydd yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024.
Rydym yn ceisio gwneud ein holl orsafoedd pleidleisio yn hygyrch i gadeiriau olwyn a gallwn ddarparu rampiau lle bo angen.
Yn ogystal â hyn:
- Mae gan bob gorsaf bleidleisio fwth pleidleisio wedi'i addasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
- Mae fersiynau print mawr o bapur(au) pleidleisio ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio, ynghyd â chymhorthion i alluogi pleidleiswyr dall i nodi eu papurau pleidleisio heb gymorth
- Os ydych chi'n bleidleisiwr Anabl ac mae angen cymorth arnoch i gwblhau papur pleidleisio ar eich pen eich hun, gallwch fynd â ffrind neu berthynas i'r orsaf bleidleisio i'ch cynorthwyo
- Gall y Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio eich helpu chi i lenwi'ch papur pleidleisio
Os nad ydych chi am fynd i'r orsaf bleidleisio, gallwch bleidleisio drwy'r post, a gall pleidleiswyr sydd ag anabledd gael pleidlais ddirprwy barhaol (dyma lle rydych chi'n enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio).
Gwybodaeth i bleidleiswyr anabl
Mae gan bob pleidleisiwr hawl i bleidleisio'n annibynnol ac yn ddirgel. Bellach mae'n rhaid i awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr gymryd camau rhagweithiol i sicrhau nad yw gorsafoedd pleidleisio yn rhoi pobl anabl dan anfantais.
Darllenwch ragor am hawliau pleidleisio pobl anabl (Dolen i ddogfen allanol a Saesneg yn unig).
Mae gan Gov.uk (Dolen i ddogfen allanol a Saesneg yn unig) gwybodaeth i helpu pobl ag anabledd dysgu a'u gweithwyr cymorth i ddeall beth yw pleidleisio, pam ei fod mor bwysig, a sut gallwch chi bleidleisio.
Eich Pasbort Pleidleisio am ddim
Dylai Gorsafoedd Pleidleisio ddarparu mynediad i bobl anabl, a dylai’r staff helpu i wneud addasiadau rhesymol er mwyn i bobl ag anableddau allu pleidleisio.
Efallai y bydd yn rhaid i chi siarad â staff yr orsaf bleidleisio am ba gymorth hoffech chi ei gael.
Mae'n bwysig cofio bod gan bawb sydd ag anabledd dysgu yr hawl i bleidleisio a chyhyd â'u bod yn gallu mynegi dros bwy maen nhw'n dymuno pleidleisio, gall rhywun gwblhau'r papur pleidleisio ar eu rhan. Gallwch fynd â'n Pasbort Pleidleisio i'r orsaf bleidleisio i ddangos i staff yr orsaf bleidleisio pa fath o gymorth hoffech chi ei gael.
I ofyn am Basbort Pleidleisio am ddim, anfonwch e-bost at electoral@bridgend.gov.uk gan nodi eich enw ac i ble y dylem anfon y Pasbort Pleidleisio neu siaradwch ag aelod o'r tîm etholiadau drwy ffonio 01656 643116. Yna byddwn yn anfon Pasbort Pleidleisio am ddim atoch chi fel y gallwch ei ddefnyddio pan fydd etholiadau'n cael eu cynnal.