Taliadau cynghorwyr
Pennir tâl cynghorwyr gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA). Ni thelir cynghorwyr am fynychu cyfarfodydd ond maent yn derbyn cyflog i’w ad-dalu am yr amser maent yn ei dreulio a’r costau a godir tra byddant ar fusnes y cyngor.
Mae cynghorwyr hefyd yn gallu hawlio lwfans teithio. Y gyfradd gyfredol yw 45c y filltir sy’n gostwng i 25c y filltir ar ôl 10,000 o filltiroedd yn unol â CThEM.
Dadansoddiad o daliadau cynghorwyr
Mae’n ofynnol o dan Adran 153 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) i’r cyflog hwn gael ei dalu’n llawn i bob cynghorydd oni bai eu bod wedi ysgrifennu’n annibynnol ac o’u gwirfodd at y swyddog priodol i ofyn am y taliad cyfan neu ran ohono.