Pwyllgorau trosolwg a chraffu
6. Trosedd ac anhrefn
Ers 1 Hydref 2009, mae gofyn bod gan y cyngor Bwyllgor Trosolwg a Chraffu gyda’r pŵer i wneud y canlynol:
- adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed neu gamau gweithredu a gymerir gan yr awdurdodau cyfrifol yn gysylltiedig â gweithredu swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
- gwneud adroddiadau neu argymhellion i’r Cyngor neu’r Cabinet fel yn ôl y sawl sy’n gyfrifol am y swyddogaeth, yn gysylltiedig â gweithredu’r swyddogaethau hyn.
Yr awdurdodau cyfrifol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Heddlu De Cymru
- Awdurdod Heddlu De Cymru
- Awdurdod Tân De Cymru
- Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae materion trosedd ac anrhefn yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymddygiad sy'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol, a chamddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau eraill.
Mae'r ddeddfwriaeth yn golygu y gall unrhyw gynghorydd gyfeirio mater trosedd ac anhrefn lleol i'r pwyllgor hwn a gellir ystyried hynny, p'un a ydynt yn aelodau o'r pwyllgor ai peidio.
Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi'i ddynodi'n gyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth trosedd ac anrhefn. Mae'r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio penderfyniad y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a'i gyrff cyfansoddol (mewn perthynas â'u rolau diogelwch cymunedol).
Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn cyfarfod i ystyried materion trosedd ac anrhefn o leiaf unwaith y flwyddyn.