Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfansoddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Byddwn yn diweddaru’r ddogfen hon pan fydd y Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau.

Cyswllt

Ffôn: 01656 643565

 

Trosolwg o waith cynghorwyr

Mae Cynghorwyr yn cynrychioli pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Maen nhw’n cael eu penodi mewn etholiadau lleol, sy’n digwydd bob pedair blynedd. Ar hyn o bryd, mae yna 51 cynghorydd ar gyfer 39 o wardiau. Tra eu bod yn gwasanaethu’r gymuned gyfan, mae dyletswydd ar gynghorwyr i wybod am yr hyn sy’n digwydd yn eu hardaloedd nhw. Mae cynghorwyr yn ymgyrchu i wella ansawdd bywyd a datblygiad yn eu wardiau, yn ogystal â thros y fwrdeistref. Mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr yn aelodau o bleidiau gwleidyddol ond mae rhai yn annibynnol.

Mae cynghorwyr yn cydweithio â chyrff a fforymau lleol, gan gynnwys byrddau iechyd, yr heddlu ac ysgolion, ac yn llwyddo i ennill dealltwriaeth ddofn a gwybodaeth am sefydliadau cymunedol. Uwchlaw popeth, mae cynghorwyr yn gwrando ar anghenion pobl, ac yn ystyried eu safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau.

‘Prif’ gorff y cyngor yw cyfarfod y Cyngor Llawn lle mae’r 54 cynghorydd i gyd yn trafod penderfyniadau. Y Cyngor Llawn sydd yn penderfynu ar y gyllideb, yn ogystal â pholisi. Hefyd, gall cynghorwyr fod â swyddi yn y Cabinet, ar bwyllgorau sefydlog neu fel aelodau o Craffu.

Panel Annibynnol Gosod Taliadau Cymru sy’n gosod taliadau cynghorwyr. Maen nhw’n cael eu digolledu am eu hamser a’u treuliau tra ar fusnes dros y cyngor. Gallwch weld mwy o wybodaeth ar gydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr.

Mae dyletswyddau cynghorwyr yn gyffredinol fel a ganlyn:

  • mynychu pob pwyllgor y maen nhw’n perthyn iddo
  • mynychu pob cyfarfod ffurfiol o’r cyngor
  • mynychu amrywiol seminarau a digwyddiadau hyfforddi
  • mynd i’r afael â gohebiaeth ac ymweliadau
  • mynd ar ôl ymholiadau
  • darllen papurau manwl a nodiadau cefndir
  • cynrychioli’r cyngor i sefydliadau ac mewn cynadleddau
  • teithio i gyfarfodydd, weithiau dros bellteroedd mawr

Mae mwy o gyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn rhai wythnosau nag wythnosau eraill, ac ysgwyddo cyfrifoldebau pellach er enghraifft mae dod yn aelod cabinet yn golygu baich gwaith mwy sylweddol o lawer.

Caiff swyddogion y cyngor eu cyflogi i weithredu penderfyniadau cynghorwyr. Maen nhw’n cynnig cyngor eang, ac uwch swyddogion fel y Prif Weithredwr, cyfarwyddwyr a phenaethiaid gwasanaeth fydd y pwyntiau cyswllt cyntaf. Mae cynghorwyr hefyd yn derbyn cefnogaeth weinyddol gan Wasanaethau Aelodau. Mae’r uned yn cefnogi anghenion cynghorwyr ac yn cydgysylltu rhwng cynghorwyr, swyddogion a’r cyhoedd.

Hefyd, mae gan gynghorwyr fan gweithio penodol. Mae iddo gyfleusterau fel cyfrifiaduron, argraffwyr, ffonau a phapur sgwennu.

Fel rheol, bydd cynghorwyr yn gwasanaethu am gyfnod o bum mlynedd. Ond, os cânt eu hethol mewn isetholiad, maent yn gwasanaethu tan yr etholiad cyngor nesaf, sef 2027.

I ddod yn gynghorydd, rhaid i chi ymladd etholiad lleol ac ennill. I sefyll, rhaid eich bod:

  • o leiaf 18 oed
  • yn ddinesydd Prydeinig, neu’n ddinesydd gwlad arall yn y Gymanwlad, gweriniaeth Iwerddon neu wladwriaeth arall sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd

Ar ben hynny yn ystod y 12 mis cyn i chi gael eich enwebu ac ar ddiwrnod y bleidlais, rhaid i chi hefyd gwrdd ag o leiaf un o’r canlynol, lle:

  • rydych wedi eich cofrestru fel etholai llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol
  • rydych yn berchen neu’n denant ar unrhyw dir neu safle yn yr awdurdod lleol
  • bod eich prif neu unig fan gwaith wedi bod yn yr awdurdod lleol

Ni allwch sefyll i fod yn gynghorydd os:

  • cyflogir chi gan yr awdurdod lleol, eich bod yn dal swydd gyflogedig gan gynnwys cyd fyrddau neu bwyllgorau, neu'n dal swydd gyda chyngor arall sydd wedi ei chyfyngu’n wleidyddol
  • yn fethdalwr
  • wedi derbyn dedfryd carchar o dri mis neu fwy, gan gynnwys dedfryd wedi ei gohirio, yn ystod y pum mlynedd cyn yr etholiad
  • wedi’ch gwahardd dan Ran III Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 neu dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998

Caiff Arweinydd y cyngor ei ethol yn flynyddol. Cynhelir yr etholiad hwn adeg Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, a gaiff ei gynnal ym mis Mai. Yr Arweinydd yw pennaeth gwleidyddol y cyngor, ac fel rheol yw arweinydd grŵp y blaid sydd yn y mwyafrif. Er hynny, gall grwpiau llai ddod ynghyd i ffurfio cynghreiriau a ffurfio mwyafrif.

Chwilio A i Y