Arfbais
Arwyddair Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw ‘ymlaen gyda hyder’.
Arfau
Mae tair adran i’r darian arfau.
- Yn yr adran ar y chwith, mae’r diemwnt du yn symbol o ddiwydiant glo’r ardal
- ac ar y dde, mae’r ysgub wenith euraid yn cynrychioli ein hamaethyddiaeth.
- Mae llinell arw’n amgau’r adran isaf, sy’n arwydd o’r arfordir treftadaeth ac mae’r dolffin gwyrdd ar dair llinell las donnog yn portreadu ein cysylltiadau â’r môr.
Arwyddlun
Ar dorch goch ac aur uwch ben yr helm, mae draig goch fechan gyda choler a chadwyn ddur am ei gwddw.
Yn ei chrafanc dde mae angor ac yn ei chrafanc chwith mae olwyn beirianneg, sy’n symbol o ddiwydiant.
Cefnogwyr
Y cefnogwr ar y chwith ar y darian yw draig goch. Mae’r gadwyn ddur dros ei chefn wedi’i gosod ar og driongl, aur sy’n cynrychioli amaethyddiaeth ac mae’n cael ei chynnal hefyd gan y grafanc dde.
Y cefnogwr ar y dde ar y darian yw ceffyl môr arian gyda chynffon werdd. Mae’r gadwyn ddur dros ei wddw wedi’i gosod ar angor dur ger y droed chwith weog ac mae hefyd yn cynrychioli’r môr. Mae’r coronau aur caerog o amgylch gyddfau’r ddau ffigwr yn symbol o lywodraeth leol.