Ymgynghoriadau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wrando ar farn trigolion ac ymateb iddi. Rydym am greu cyfleoedd i bobl leol gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
Rydym yn croesawu ymatebion yn Gymraeg. Mae pob ymgynghoriad ar gael yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r botwm Cymraeg.Mae fformatau amgen hefyd ar gael ar gais.
Ymgynghoriadau cyfredol
Dewch i Siarad: Byw yn Mhen-y-bont ar Ogwr
Dewch i Siarad: Byw yn Mhen-y-bont ar Ogwr yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Pen-y-bont ar Ogwr i ddeall yn well:
- Beth sy'n bwysig i chi
- Eich profiad o'ch ardal leol
- Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor
Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.
Dyddiad cau: 15 Tachwedd 2024
Arolwg cymunedol Tŷ Carnegie
Mae Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn rhedeg Tŷ Carnegie fel canolfan gelfyddydau, diwylliant a lles ar ran y gymuned leol.
Hoffai'r cyngor wybod beth fyddech yn dymuno ei weld yn digwydd o ran digwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yn y dyfodol, yn Nhŷ Carnegie ac yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Dyddiad cau: 29 Tachwedd 2024
Arolwg darpariaeth meithrin
Rydym yn adolygu'r ddarpariaeth feithrin ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'n Hasesiad Digonolrwydd Gofal Plant (CSA).
Mae’r asesiad yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael gwell dealltwriaeth o ddefnydd gofal plant gan rieni/gofalwyr, y cyflenwad cyffredinol o ofal plant yn y wlad ac unrhyw ffactorau ychwanegol a all effeithio ar y galw am ofal plant dros y pum mlynedd nesaf.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2024
Arolwg Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr yn casglu gwybodaeth am sut mae pobl yn y Fwrdeistref sirol yn bwyta, siopa, coginio a gwastraffu bwyd.
Bydd y gwaith hwn yn llywio dyfodol bwyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r bartneriaeth yn aelod o Leoliadau Bwyd Cynaliadwy, sy’n ceisio trawsnewid y fwrdeistref sirol i fod yn Lleoliad Bwyd Cynaliadwy.
Dyddiad cau: 08 Rhagfyr 2024
Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad
Datblygwyd ein Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ein gwasanaethau.
Gyda dewis eang o sianeli ar gael i ni, rydym am sicrhau ein bod yn cynnig y cyfle gorau i wrando ar, ac ymateb i farn pobl ac ymgysylltu â phob aelod o'n cymuned mewn perthynas â’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar gyfer pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.