Ymgynghoriad cyllideb 2019
Trosolwg o’r Ymgynghoriad
(Gweld trawsgrifiad y fideo uchod yma).
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi gwneud mwy na £27 miliwn o arbedion cyllidebol. Ymhlith y ffyrdd rydym wedi gwneud hyn mae:
- gwneud y system o uwch reolwyr yn fwy effeithlon a gostyngiad o fwy na 400 o gyflogeion yn ein gweithlu
- adleoli staff a chau ambell eiddo gan y cyngor
- datblygu mwy o wasanaethau ar-lein
Hefyd, rydym wedi ailfodelu dau gartref plant, cael gwared ar eiddo ac asedau diangen, ac aildrefnu ein gwasanaethau swyddfa gefn.
Er gwaetha’r newidiadau sydd wedi’u gwneud hyd yma, mae’n rhaid i ni wneud arbediad pellach o £35 miliwn erbyn 2023, sy’n 13.5% o’n cyllideb net bresennol.
Yn yr ymgynghoriad hwn, ymhlith y meysydd y byddwn yn eich holi amdanynt mae’r canlynol:
- treth gyngor
- glanhau strydoedd
- rheoli plâu
- camerâu cylch cyfyng
- digartrefedd
- addysg a gwasanaethau cefnogi
- gwasanaethau digidol
Ymateb ac ennill gwobr
Bydd pawb 13 oed a hŷn sy’n cwblhau’r arolwg hwn yn cael cyfle i fod yn rhan o raffl i ennill un o’r canlynol:
- dau docyn i ‘It’s a Wonderful life’ yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw nos Iau 14 Tachwedd
- tocyn i deulu o bedwar i weld pantomeim ‘Snow White’ yn Y Pafiliwn, Porthcawl nos Sadwrn 14 Rhagfyr
- aelodaeth blwyddyn o gampfa Halo
Mae telerau ac amodau’n berthnasol i’r raffl
Raffl fawr
- dau docyn i ‘It’s a Wonderful life’ yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw nos Iau 14 Tachwedd
- tocyn i deulu o bedwar i weld pantomeim ‘Snow White’ yn Y Pafiliwn, Porthcawl nos Sadwrn 14 Rhagfyr
- aelodaeth blwyddyn o gampfa Halo
Telerau ac amodau
Dim ond am gyfle i ennill tocyn i deulu o bedwar i weld y pantomeim yn y Pafiliwn ym Mhorthcawl fydd ymatebwyr dan 16 oed yn gymwys.
Byddwn yn anfon manylion enillydd yr aelodaeth blwyddyn o Halo i Halo Leisure, a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Ar gyfer tocynnau’r pantomeim neu’r sioe, byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn uniongyrchol.
Ni fyddwn yn anfon eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol arall ymlaen i unrhyw sefydliad arall.
Edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ddechrau’r arolwg. Bydd eich data personol yn cael eu defnyddio ar gyfer y raffl yn unig. Byddant yn cael eu cadw gan dîm yr ymgynghoriad tan ddiwedd cyfnod yr ymgynghoriad (3 Tachwedd), ac wedyn byddant yn cael eu dileu’n ddiogel o’n system.
Telerau ac amodau
Dim ond am gyfle i ennill tocyn i deulu o bedwar i weld y pantomeim yn y Pafiliwn ym Mhorthcawl fydd ymatebwyr dan 16 oed yn gymwys.
Byddwn yn anfon manylion enillydd yr aelodaeth blwyddyn o Halo i Halo Leisure, a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Ar gyfer tocynnau’r pantomeim neu’r sioe, byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn uniongyrchol (ar gyfer y rhai 13 i 16 oed, bydd hyn drwy eich ysgol).
Ni fyddwn yn anfon eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol arall ymlaen i unrhyw sefydliad arall.
Edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ddechrau’r arolwg. Bydd eich data personol yn cael eu defnyddio ar gyfer y raffl yn unig. Byddant yn cael eu cadw gan dîm yr ymgynghoriad tan ddiwedd cyfnod yr ymgynghoriad (3 Tachwedd). Ar ôl hyn, byddant yn cael eu dileu’n ddiogel o’n system.
Sut i ymateb
Bydd cyfnod yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 9 Medi 2019 ac yn cau ar 3 Tachwedd 2019. Gallwch ymateb neu ofyn cwestiynau pellach fel a ganlyn:
Cyswllt
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Fformatau eraill ar gael hefyd, ar gais.
Gweithdai ymgysylltu
Hefyd gallwch ymateb yn ein gweithdai ymgysylltu cymunedol.
Dyddiad | Lleoliad | Amser |
---|---|---|
Dydd Iau 12 Medi | Llyfregell Abercynffig | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Sadwrn 21 Medi | Llyfregell Maesteg | 9:30am tan 13:00pm |
Dydd Llun 23 Medi | Llyfregell Pen-y-bont ar Ogwr | 4pm tan 7pm |
Dydd Iau 26 Medi | Llyfregell Betws | 2pm tan 4pm |
Dydd Llun 30 Medi | Llyfrgell Sarn | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Sadwrn 5 Hydref | Llyfrgell Porthcawl | 9:30am tan 13:00pm |
Dydd lau 10 Hydref | Llyfrgell Y Pîl | 2pm tan 4pm |
Dydd Iau 24 Hydref | Llyfrgell Pencoed | 11am tan 1pm |
Dydd Llun 28 Hydref | Canolfan Bywyd Cwm Ogwr | 4pm tan 7pm |
Dydd Mawrth 29 Hydref | Llyfrgell Pontycymer | 3pm tan 5pm |
Sesiynau cwestiynau ac atebion ar gyfryngau cymdeithasol
Ymunwch â’n sesiynau cwestiynau ac atebion byw ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r Prif Weithredwr.
Llwyfan | Dyddiad | Amser |
---|---|---|
Twitter a Facebook | 02 Hydref 2019 | 5.30pm |
Dyddiadau ymgynghori pwysig
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Dyddiad cau ar gyfer ymateb | 3 Tachwedd 2019 |
Adrodd i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad | 17 Rhagfyr 2019 |
A chofiwch, mae cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’n Panel Dinasyddion.