Ymgynghoriadau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wrando ar farn trigolion ac ymateb iddi. Rydym am greu cyfleoedd i bobl leol gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
Rydym yn croesawu ymatebion yn Gymraeg. Mae pob ymgynghoriad ar gael yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r botwm Cymraeg.Mae fformatau amgen hefyd ar gael ar gais.
Ymgynghoriadau cyfredol
Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2025-26
Bwriedir i’r ymgynghoriad hwn sicrhau y gallwch gael dweud eich dweud yn y broses o osod cyllideb. Mae’n adeiladu ar ganlyniadau proses y llynedd, pryd y dywedoch wrthym y dylem fod yn ceisio cyflwyno taliadau neu eu cynyddu os oeddent eisoes yn bodoli, gan leihau costau staffio ac adolygu pa lefelau o wasanaeth oedd modd eu darparu.
Er mwyn gwneud yn fawr o arbedion effeithlonrwydd, fe ddywedoch wrthym ni hefyd i adolygu’r defnydd a wneir o’n hadeiladau a’n hasedau, ac i ystyried y trefniadau gwasanaeth sydd gennym mewn lle gyda sefydliadau partneriaethol.
Rydym wedi gweithredu ac wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’r cyfan o’r uchod, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni edrych ymlaen tuag at 2025-26.
Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn cael eu dadansoddi’n ofalus a’u hystyried, a byddwn yn ceisio adlewyrchu barn cymaint o bobl â phosib yn y cynigion cyllideb terfynol - diolch i chi am gymryd rhan.
Dyddiad cau: 26 Ionawr 2025
Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad
Datblygwyd ein Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ein gwasanaethau.
Gyda dewis eang o sianeli ar gael i ni, rydym am sicrhau ein bod yn cynnig y cyfle gorau i wrando ar, ac ymateb i farn pobl ac ymgysylltu â phob aelod o'n cymuned mewn perthynas â’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar gyfer pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.