Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein holl wasanaethau, ac i drin ein trigolion, cwsmeriaid, cyflogeion ac ymwelwyr â pharch wrth ddarparu gwasanaethau sy'n ymateb i anghenion unigol y bobl.
Mae’r Cyngor yn cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i ddeall a fydd newidiadau i bolisïau, gwasanaethau a swyddogaethau, neu a fydd cyflwyno rhai newydd, yn cael effaith ar wahanol sectorau’r gymdeithas mewn gwahanol ffyrdd.
Gall asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb helpu i nodi gwelliannau i wasanaethau, gan ein galluogi i wneud gwell penderfyniadau a nodi sut y gall pobl fanteisio’n llawn ar ein gwasanaethau.
- Sgrinio cyntaf - Mae sgrinio cyntaf yn ein helpu i wybod a yw cynnig penodol yn debygol o gael effaith andwyol ar unrhyw grŵp o bobl ac a oes angen i ni gymryd camau gweithredu lliniarol neu weithredu asesiad llawn o'r effaith ar gydraddoldeb.
- Asesiadau Llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb - Mae asesiad llawn o’r effaith ar gydraddoldeb yn broses gyfundrefnol o gasglu a dadansoddi tystiolaeth sy'n sicrhau ein bod yn bodloni ein dyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb yn well.
Rydym yn cyhoeddi ein hasesiadau o effaith ar gydraddoldeb yn adran cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a phwyllgorau ar y wefan.
Mae’r ddeddf yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus sy’n datgan bod rhaid i ni, fel Cyngor, ystyried yr angen i wneud y canlynol:
- dileu gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd dan y ddeddf.
- datblygu cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion a ddiogelir ac unigolion sydd heb nodweddion o’r fath, er enghraifft drwy leihau neu gael gwared ar anfanteision, bodloni anghenion unigolion sydd â nodwedd a ddiogelir neu eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a bywyd cyhoeddus.
- annog perthnasau da rhwng y rheiny sy’n rhannu nodwedd a ddiogelir a’r rheiny nad ydynt, er enghraifft drwy fynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth
Rydym wedi ymrwymo i helpu i sicrhau bod modd i unigolion, waeth pa fath o nodwedd a ddiogelir sydd ganddynt, gymryd rhan gyflawn yn ein cymuned fel dinasyddion cyfartal. Y naw nodwedd a ddiogelir yw:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil
- Crefydd a chred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol