Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn dwyn ynghyd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus blaenorol yng Nghwm Taf, gan gynnwys Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, a Phen-y-bont ar Ogwr er mwyn ffurfio un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal Cwm Taf Morgannwg.

Mae’r bwrdd newydd hwn yn dwyn ynghyd gyrff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau yn lleol i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy osod amcanion fydd yn cyflawni'r Nodau Llesiant a amlinellir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2015.

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud hyn drwy:

  • Asesu cyflwr llesiant diwylliannol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal
  • Gosod amcanion sydd wedi'u cynllunio er mwyn gwella cyfraniad y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i'r amcanion llesiant.

Mae'n rhaid iddynt wneud hyn yn unol â'r egwyddor datblygiad cynaliadwy sy'n golygu bod angen i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sicrhau eu bod yn cymryd i ystyriaeth yr effaith y gallant ei gael ar bobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol wrth wneud unrhyw benderfyniadau.

 

Chwilio A i Y