Troseddau Casineb
Beth yw Troseddau Casineb?
Mae troseddau casineb yn droseddau sy’n targedu person oherwydd atgasedd neu ragfarn tuag at y canlynol:
- anabledd
- hil neu ethnigrwydd
- crefydd neu gred
- cyfeiriadedd rhywiol
- hunaniaeth drawsrywiol
Gellir cyflawni trosedd casineb yn erbyn person neu eiddo. Gall hyn gynnwys y canlynol:
- cam-drin geiriol
- codi ofn
- bygythiadau
- aflonyddu
- ymosod
- bwlio
- difrod i eiddo
Rhoi gwybod am drosedd casineb
Mae sawl ffordd i chi roi gwybod am drosedd casineb, fel dioddefwr, tyst neu ar ran rhywun arall.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
I roi gwybod am drosedd heb fod yn frys, ffoniwch 101.
Mae dioddefwyr yn cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu bob amser ond efallai y byddwch eisiau rhoi gwybod am y digwyddiad yn uniongyrchol i’r gwasanaeth Cymorth i Droseddwyr. Bydd gwasanaethau cefnogi’n cael eu cynnig o fewn 48 awr.