Diogelwch Tân
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn bartneriaid yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Mae’n gwarchod ein cymunedau ni ac yn lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau o danau a sefyllfaoedd brys eraill.
Maen nhw’n gweithio gyda chynghorau, yr heddlu, y gwasanaethau prawf a’r bwrdd iechyd lleol i dargedu’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o dân a gwrthdrawiadau ar y ffordd. Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gwneud hyn mewn sawl ffordd, fel ymweliadau diogel ac iach am ddim, gweithio gydag ieuenctid ac ymgyrchoedd diogelwch ar y ffordd.
Am fwy o wybodaeth am eu gweithgareddau, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.