Am Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr
Cefnogi cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel ac yn gydlynus
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys asiantaethau amrywiol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'i gilydd i leihau troseddu, anhrefn ac ofn troseddu yn lleol, er mwyn gwella ansawdd bywyd a chreu amgylchedd byw a gweithio diogelach.
Nod y bartneriaeth yw mynd i'r afael ag anghenion unigolion a chymunedau i'w galluogi i deimlo'n ddiogelach a mwynhau mwy o gyfleoedd yn eu cymunedau lleol.
Yn dilyn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, penderfynodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr ymgorffori gweithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei Asesiad Lles a’i weithgareddau cynllunio a thrwy ei wneud yn is-fwrdd o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae cefnogi Cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel ac yn gydlynus wedi’i gynnwys yng Nghynllun Lles Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’n nod cyffredinol ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.
Aelodau statudol
Dyma aelodau statudol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Y Gwasanaeth Prawf Cymunedol
Aelodau eraill
Nid oes raid i’r sefydliadau hyn fod yn aelodau o’r bartneriaeth ond maent wedi dewis bod. Dyma’r sefydliadau:
- y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
- yr aelod etholedig ar gyfer diogelwch cymunedol
- Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg
- landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Cymdeithas Pen-y-bont ar Ogwr o Sefydliadau Gwirfoddol
Cyswllt
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol
Dogfennau
- Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont Adroddiad Blynyddol 2020 i 2021 (PDF 1289Kb)
- Cynllun Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr (PDF 3659Kb)
- Datgelu Categorïau Arbennig o Ddata Personol –Protocol i’r Aelodau Etholedig (PDF 366Kb)
- Strategaeth Diogelwch Cymunedol 2019 (PDF 842Kb)
- Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Adroddiad Blynyddol 2019 i 2020 (PDF 2002Kb)
- Cwm Taf Morgannwg VAWDASV Strategy Update Report 2021 2022CYMRAEG (PDF 818Kb)