Adrodd twyll
Mae'r term ‘twyll' yn gyffredinol yn cynnwys gweithgareddau megis lladrad, llygredigaeth, cynllwynio a llwgrwobrwyo. Twyll yw’r weithred droseddol o weithredu neu hepgor er budd personol neu i achosi colled i unigolyn neu sefydliad arall.
Mae’r Tîm Ymchwilio Twyll Corfforaethol yn cynnwys ymchwilwyr sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol. Maen nhw’n cynnal ymchwiliadau sifil a throseddol yn ymwneud ag atal a chanfod troseddau, dal ac erlyn troseddwyr, ac adfer enillion troseddau.
Byddwn yn gweithredu’n briodol er mwyn ymchwilio twyll a gyflawnwyd yn erbyn y cyngor, gan gynnwys erlyn, pan fo hynny’n briodol.
Gyda throseddwyr yn ceisio cymryd mantais o wendidau ar hyd y sector cyhoeddus, yn enwedig yn ystod cyfnodau trallodus, mae hi’n hanfodol ein bod yn wyliadwrus ac yn ymatebol i risgiau o dwyll. Anelwn i adfer colledion a chosbi'r rheiny sy’n gyfrifol am dwyll.
Adroddwch dwyll treth gyngor
Mae twyll treth gyngor yn digwydd pan mae rhywun yn rhoi gwybodaeth ffug i ni i osgoi talu’r swm cywir.
Adroddwch dwyll neu gamddefnydd o’r bathodyn glas
Gall hyn gynnwys camddefnyddio trwydded ddilys neu ddefnyddio trwydded ffug.
Adrodd am fathau eraill o dwyll ar-lein
Helpwch ni i atal, canfod a rhwystro twyll. Os ydych yn amau bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, dylech roi gwybod inni’n syth trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gellir adrodd y canlynol i Dîm Twyll y cyngor:
- Twyll yn ymwneud â Thaliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal / Taliadau Gofal Cymdeithasol
- Defnyddio grantiau ar gyfer rhesymau gwahanol i'r rheiny a fwriedir
- Twyll Ardrethi Busnes
- Twyll Cyflenwyr/Contract
- Llwgrwobrwyaeth neu Lygredigaeth
- Twyll Yswiriant
- Twyll Recriwtio
- Twyll caffael
- Twyll Gostyngiad Treth Gyngor
- Twyll drwy fandad
- Twyll cyflogai
Mae disgrifiad manwl o bob math o dwyll yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Twyll Budd-daliadau Tai a thwyll Credyd Cynhwysol
Adroddwch am dwyll yn ymwneud â Budd-daliadau Tai a Chredyd Cynhwysol ar wefan gov.uk.
Gallwch hefyd ffonio 0800 854440 neu ysgrifennu llythyr i’r National Benefit Fraud Hotline, Mail Handling Site A,
Wolverhampton, WV98 2BP.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am ymchwilio i bob achos o dwyll yn ymwneud â Budd-daliadau Tai a Chredyd Cynhwysol
Action Fraud
Gallwch adrodd unrhyw dwyll nad ydyw’n ymwneud â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Action Fraud.
Canolfan adrodd twyll a throsedd seiber genedlaethol y DU. Yn ogystal ag adrodd twyll, gallwch hefyd ganfod cyngor a diweddariadau yn ymwneud â sgamiau diweddar.
Sgamiau a Throseddau Seiber - Mae troseddwyr Seiber yn defnyddio negeseuon ffug er mwyn eich denu i glicio ar ddolenni o fewn eu negeseuon e-bost neu destun sgam, neu er mwyn eich twyllo i ddatgelu gwybodaeth sensitif (megis eich manylion banc). Gall y negeseuon hyn edrych yn ddilys, ond maleisus ydynt mewn gwirionedd. Unwaith eich bod wedi clicio ar y dolenni hyn, gallwch gael eich tywys i wefannau anniogel a allai lawrlwytho feirysau i'ch cyfrifiadur, neu ddwyn eich cyfrineiriau.
Os credwch eich bod wedi dioddef o dwyll neu drosedd seiber a’ch bod naill ai wedi cael colled ariannol o ganlyniad i hynny, neu wedi cael eich hacio drwy neges gwe-rwydo, dylech adrodd hyn i Action Fraud.
Gallwch adrodd twyll neu droseddau seiber i Action Fraud ar unrhyw bryd, ddydd neu nos, drwy eu hadnodd adrodd ar-lein.
Masnachu Teg
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn sicrhau prisiau a disgrifiadau cywir ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ac yn mynd i’r afael â ffugiadau, masnachu twyllodrus a sgamiau.
Am ragor o wybodaeth ynghylch masnachu teg a sut i adrodd, ewch i wefan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Gall twyll gynnwys: -
- Gwneud cynrychiolaeth gamarweiniol bwrpasol
- Methu â datgelu gwybodaeth
- Camddefnyddio awdurdod
Gellir cyflawni twyll yn erbyn unigolion, busnesau, neu sefydliadau eraill gan gynnwys cynghorau, a gellir ei gyflawni gan unigolion o fewn neu'r tu allan i’r cyngor, a all fod yn gweithredu’n unigol neu fel rhan o grŵp.
- Twyll Gostyngiadau’r Dreth Gyngor - Unigolyn sy’n hawlio Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ond heb ddatgan ei fod yn gweithio, mewn perthynas, yn berchen ar dir neu eiddo, yn meddu ar gynilion, neu sydd yn hawlio budd-dal ar gyfer un cyfeiriad ond yn byw mewn lleoliad arall.
- Camddefnydd neu dwyll yn ymwneud â Bathodynnau Glas - Ennill bathodyn glas trwy dwyll, camddefnyddio bathodyn glas dilys, defnyddio bathodyn glas unigolyn sydd wedi marw, defnyddio bathodyn glas ffug, defnyddio bathodyn glas sydd wedi dod i ben, neu sydd wedi ei ddwyn.
- Twyll yn ymwneud â Thaliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal / Taliadau Gofal Cymdeithasol - Pan fydd unigolyn yn derbyn taliadau gan y cyngor er mwyn gofalu amdano ef ei hun neu eraill, ond nad yw'r arian yn cael ei wario ar ofal, boed hynny y swm llawn neu’n rhannol.
- Camddefnyddio grantiau - Pan fydd grantiau yn cael eu rhoi i unigolion neu sefydliadau i gynorthwyo gyda’u gweithrediadau neu er mwyn addasu cartrefi i fodloni anghenion penodol y preswylwyr, ond nad yw’r grantiau yn cael eu defnyddio ar gyfer hynny.
- Twyll Ardrethi Busnes - Pan fydd gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn cael ei darparu ar bwrpas er mwyn osgoi talu ardrethi busnes neu i sicrhau ardrethi busnes is. Gallai hefyd gynnwys datgan yn anwireddus nad yw eiddo yn cael ei ddefnyddio bellach, er mwyn cymhwyso am ostyngiad ardrethi.
- Twyll Cyflenwyr/Contract - Pan fydd cyflenwyr neu gontractwyr yn darparu nwyddau neu gynhyrchion o safon is na’r disgwyl neu’n rhatach iddynt hwy eu hunain ar bwrpas, pan mae'r cyngor wedi talu am nwyddau neu gynhyrchion o safon uwch, ac yn disgwyl nwyddau neu gynhyrchion o safon uwch.
- Llwgrwobrwyaeth neu Lygredigaeth - Derbyn arian neu anrhegion, ffafrio contractwyr penodol, neu osod prisiau yn dwyllodrus. Pan fydd staff y cyngor neu Gynghorwyr yn cymryd mantais o’u hawdurdod.
- Twyll Yswiriant - Unrhyw hawliad yswiriant a wneir i’r sefydliad neu ddarparwyr yswiriant y sefydliad a brofir i fod yn ffug.
- Twyll Recriwtio - Ymgeiswyr sy’n darparu CV, hanes gwaith, cymwysterau, geirdaon, neu statws mewnfudo (h.y. hawl i weithio yn y DU) ffug, neu sy’n defnyddio hunaniaeth ffug er mwyn cuddio euogfarnau troseddol neu statws mewnfudo.
- Twyll Caffael - Caffael gwasanaethau i'r Cyngor sydd wedi cael eu gwneud mewn modd diegwyddor, drwy ffafr ariannol, gwybodaeth fewnol, gorfodaeth neu fel arall.
- Twyll Treth Gyngor - Mae'r mathau o ostyngiadau y gellir eu hawlio'n dwyllodrus yn cynnwys honni i fyw ar aelwyd lle mae un person yn byw er mwyn hawlio gostyngiad person sengl pan mae mwy nag un person yn byw yn y tŷ, cymryd arnynt i fod yn fyfyriwr i gael gostyngiad myfyriwr pan nad ydynt yn fyfyriwr, hawlio bod eiddo heb neb yn preswylio ynddo a'i fod heb ei ddodrefnu pan nad yw hynny'n wir, neu hawlio ar gyfer eithriad nad oes gan y sawl sy'n talu'r dreth gyngor hawl iddo.
- Twyll drwy Fandad - Mae Action Fraud yn diffinio twyll drwy fandad fel "pan mae rhywun yn gwneud i chi newid debyd uniongyrchol, archeb sefydlog neu fandad trosglwyddiad banc, drwy gymryd arnynt i fod (neu'n ceisio ymddangos i fod) yn sefydliad rydych yn gwneud taliadau rheolaidd iddynt, er enghraifft tanysgrifiad neu aelodaeth o fudiad neu gyflenwr i'ch busnes."
- Twyll cyflogai - Mae twyll sy'n ymwneud â gweithwyr y cyngor sydd yn y broses o ddigwydd neu sydd wedi digwydd yn erbyn y cyngor, e.e. dwyn nwyddau/gwasanaethau'r cyngor, twyll 'colli amser' neu gyflwyno hawliadau costau ffug.
-
Twyll Caffael - Caffael gwasanaethau i'r Cyngor sydd wedi cael eu gwneud mewn modd diegwyddor, drwy ffafr ariannol, gwybodaeth fewnol, gorfodaeth neu fel arall.
-
Twyll Gostyngiad Treth Gyngor - Mae'r mathau o ostyngiadau y gellir eu hawlio'n dwyllodrus yn cynnwys honni i fyw ar aelwyd lle mae un person yn byw er mwyn hawlio gostyngiad person sengl pan mae mwy nag un person yn byw yn y tŷ, cymryd arnynt i fod yn fyfyriwr i gael gostyngiad myfyriwr pan nad ydynt yn fyfyriwr, hawlio bod eiddo heb neb yn preswylio ynddo a'i fod heb ei ddodrefnu pan nad yw hynny'n wir, neu hawlio ar gyfer eithriad nad oes gan y sawl sy'n talu'r dreth gyngor hawl iddo.
-
Twyll drwy Fandad - Mae Action Fraud yn diffinio twyll drwy fandad fel "pan mae rhywun yn gwneud i chi newid debyd uniongyrchol, archeb sefydlog neu fandad trosglwyddiad banc, drwy gymryd arnynt i fod (neu'n ceisio ymddangos i fod) yn sefydliad rydych yn gwneud taliadau rheolaidd iddynt, er enghraifft tanysgrifiad neu aelodaeth o fudiad neu gyflenwr i'ch busnes."
-
Twyll cyflogai - Mae twyll sy'n ymwneud â gweithwyr y cyngor sydd yn y broses o ddigwydd neu sydd wedi digwydd yn erbyn y cyngor, e.e. dwyn nwyddau/gwasanaethau'r cyngor, twyll 'colli amser' neu gyflwyno hawliadau costau ffug.
Nid yw twyll yn drosedd di-ddioddefwyr, a gall ein heffeithio ni i gyd.
- Y gost ariannol – Mewn termau ariannol, mae twyll yn costio biliynau o bunnoedd i’r wlad yn flynyddol, ac mae’n cynyddu eich Treth Incwm a’ch Treth Gyngor. Mae hefyd yn effeithio ar swm yr arian sydd gennym i’w wario ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. O ganlyniad i dwyll, mae llai o arian ar gael er mwyn gwella ac uwchraddio pethau megis cyfleusterau addysgol, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth.
- Y gost ddynol – Mae costau eraill ynghlwm â thwyll, nad ydynt o reidrwydd yn amlwg. Er enghraifft, mae twyll sy’n ymwneud â Bathodynnau Glas yn golygu llai o fannau parcio i’r anabl, sydd wedi’u creu’n arbennig ar gyfer y rheiny sydd eu hangen, gan eu hamddifadu o’r gallu i adael eu cartref a gwneud y pethau hanfodol mewn bywyd.
- Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfrifoldeb cyfreithiol i amddiffyn unrhyw gyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu. Wrth wraidd ein henw da mae ymddygiad moesol, a gonestrwydd ac uniondeb ariannol. Gallai unrhyw achos o dwyll, llwgrwobrwyaeth, llygredigaeth, neu anonestrwydd arall effeithio enw da’r Cyngor yn ddifrifol, gan roi ei allu i gyflawni ei bolisïau a’i amcanion mewn perygl. Os credwn fod unigolyn/unigolion yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, byddwn yn eu hymchwilio. Os canfyddwn dystiolaeth o unigolyn/unigolion yn cyflawni twyll, gallant gael eu herlyn drwy’r Llys Ynadon neu Lys y Goron.
- Gall Swyddog y Cyngor wynebu gweithdrefnau disgyblu yn ogystal. Gellir cyfeirio Cynghorwyr at Ombwdsmon Cyhoeddus Cymru.
- Mewn unrhyw achos, byddwn yn ceisio adfer unrhyw golled ariannol neu faterol. Dan amgylchiadau penodol, efallai y byddem hefyd yn atafaelu arian neu asedau pellach os credir eu bod yn enillion trosedd.
- Noder nad yw hi’n bosib i ni ddarparu manylion ynghylch achosion unigol o ganlyniad i Ddeddf Diogelu Data 2018 a Deddf Hawliau Dynol 1998.
Mae Tîm Twyll Corfforaethol y cyngor yn cynnal ymchwiliadau ar gyfer atal a chanfod troseddau.
Maent yn ymchwilio i honiadau o dwyll ac afreoleidd-dra, ac mae enghreifftiau i’w cael uchod.
Gofynnwn i chi ein helpu i atal, canfod a rhwystro twyll.
Os amheuwch fod twyll yn cael ei gyflawni yn erbyn y cyngor, dylech ei adrodd yn syth.
- Mae sawl ffordd o wneud hynny’n gyfrinachol. Nid oes rhaid i chi roi eich enw, oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny. Gofynnwn i chi ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib er mwyn ein cynorthwyo gyda’n hymchwiliad.
Byddwn yn edrych ar y wybodaeth y gwnaethoch ei rhoi. Os bydd digon o wybodaeth wedi’i darparu, byddwn yn ymchwilio i honiad yr unigolyn. Ni fyddwn yn eich hysbysu o ganlyniad yr ymchwiliad.
O bryd i'w gilydd, ni fydd angen gweithredu. Gall yr unigolyn fod wedi datgan newid yn ei amgylchiadau, lle nad yw hyn yn effeithio ar ei fudd-daliadau.
Os canfyddir bod yr unigolyn wedi cyflawni twyll budd-daliadau, yna byddwn yn gweithredu yn ei erbyn. Gall y gweithredu hwnnw gynnwys diddymu budd-daliadau'r unigolyn a’i erlyn yn y llys.
Trosedd Gorfforaethol (CCO)
Cyflwynodd Cyllid a Thollau EF (HMRC) ystod o fesurau er mwyn mynd i'r afael â throseddau ariannol fel rhan o Ddeddf Cyllid Troseddol 2017. Mae'r Drosedd Gorfforaethol yn ddeddfwriaeth a gyflwynir fel rhan o'r Ddeddf er mwyn mynd i’r afael â’r rheiny sy’n osgoi talu trethi, y rheiny sy'n galluogi trosedd, ac y rheiny sy'n methu yn eu dyletswydd i rwystro osgoi talu trethi.
Dylid cyfeirio unrhyw bryderon ynglŷn â methiannau o ran rhwystro osgoi talu trethi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’r:
Gwyngalchu Arian
Gwyngalchu arian yw’r broses o ‘lanhau’ enillion troseddol er mwyn cuddio eu tarddiad anghyfreithlon. Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae gwyngalchu arian yn costio dros £100 biliwn y flwyddyn i’r DU. Mae troseddwyr yn ymdrechu i guddio eu troseddau drwy ganfod mannau diogel i storio eu helw, lle gallant osgoi gorchmynion atafaelu, a lle gellir gwneud i’r enillion hynny ymddangos yn rhai dilys.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi trefniadau priodol a chymesur yn eu lle er mwyn diogelu yn erbyn gwyngalchu arian, a chreu trefniadau adrodd.
Dylid cyfeirio unrhyw bryderon ynglŷn â gwyngalchu arian i’r:
Y Fenter Twyll Genedlaethol - Hysbysiad Prosesu Teg
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfrifoldeb cyfreithiol i amddiffyn unrhyw gyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu. Mae'n bosib y bydd yn rhannu gwybodaeth a ddarparwyd iddo gyda chyrff cyfrifol eraill ar gyfer archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal ac adnabod twyll.
Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) sy'n archwilio cyfrifon yr awdurdod hwn. Y mae hefyd yn gyfrifol am ymarferion paru data.
Mae paru data yn golygu cymharu cofnodion cyfrifiaduron sy'n cael eu dal gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiaduron eraill sy'n cael eu dal yr un corff neu gorff arall er mwyn gweld faint maent yn cyfateb. Gwybodaeth bersonol yw hyn fel arfer. Mae paru data yn gyfrifiadurol yn caniatáu i honiadau a thaliadau sydd â'r potensial i fod yn ffug gael eu hadnabod. Lle mae modd paru gall hyn ddynodi bod yna anghysondeb sy'n gofyn am ymchwiliad pellach. Ni ellir gwneud unrhyw dybiaeth ynghylch p'un ai a oes twyll, camgymeriad neu eglurhad arall hyd nes i ymchwiliad gael ei gynnal.
Ar hyn o bryd mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn cynorthwyo gydag atal ac adnabod twyll. Mae'n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata i'r Archwilydd Cyffredinol i'w paru ar gyfer pob ymarfer, ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu yng nghanllawiau'r Comisiwn Archwilio. Ers iddo ddechrau yn 1996, mae ymarferion Y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) wedi arwain at adnabod ac atal dros £35.4 miliwn o dwyll a gordaliadau yng Nghymru, a £1.69 biliwn ar draws y DU.
Mae defnyddio data mewn ymarfer paru data a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn cael ei weithredu gydag awdurdod statudol sydd o fewn ei bwerau yn Rhan 3 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid yw'n gofyn am ganiatâd gan yr unigolion sydd ynghlwm ag ef o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Mae paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn ddarostyngedig i God Ymddygiad.
Am ragor o wybodaeth ynghylch pwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau pam mae'n paru gwybodaeth arbennig, gweler