WiFi am ddim yng Nghanol Trefi
Mae Wi-Fi am ddim bellach ar gael yng nghanol trefi ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y bwriad yw ceisio gwella cysylltedd ymhlith trigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Mae’r gwasanaeth am ddim ar gael yng nghanolfannau’r trefi canlynol:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Porthcawl
- Maesteg
- Pencoed
Cysylltwch â 'BCBC free Wi-Fi'
I gysylltu â’r WiFi, chwiliwch am rwydwaith BCBC free Wi-Fi a nodwch eich cyfeiriad e-bost.
I ddewis eich iaith, defnyddiwch y togl ar frig ochr dde’r sgrin.