Safleoedd hanesyddol
Ewch i weld Neuadd y Gweithwyr hanesyddol y dref lofaol lle ysgrifennwyd ‘Calon Lân’. Ar ben hynny, fe allech fwynhau llwybrau beicio mynydd cyffrous Blaengarw, neu gerdded ar hyd un o’i llwybrau hardd.
Ewch yn ôl mewn amser yng Nghastell Coety. Ar ôl ei adeiladu tua 1100AD, fe’i hatgyweiriwyd yn y cyfnod canoloesol hwyr ar ôl i Owain Glyndŵr ymosod arno yn 1404.
Yn gyfoeth o hanes canoloesol a Rhufeinig, mae’r ardal hefyd yn gartref i Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Mae’n un o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Cymru, a ger Pwll Cynffig, fe welwch dafarn hanesyddol y Prince of Wales Inn.
Pentref bach yw hwn ac iddo hanes mawr. Dyma fan geni’r athronydd Richard Price o’r 18fed ganrif, y mae ei waith llenyddol wedi’i ymgorffori yng Nghyfansoddiad Unol Daleithiau America. Edrychwch dros y llethrau bryniog o’r dafarn wledig nodweddiadol.
Dewch o hyd i’r Hen Dŷ, tafarn hynaf de Cymru. Mae cyfoeth o hanes Cymru yn y pentref hardd hwn ar ben y bryn, megis chwedl ‘Morwyn Cefn Ydfa’ y mae ei chymeriadau anffodus wedi’u claddu ym mynwent Llangynwyd.
Yng nghanol y mynyddoedd ym mhen Cwm Llynfi, datblygodd Maesteg yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Erbyn hyn, mae neuadd hanesyddol y dref a adeiladwyd yn 1881 yn ganolfan gelfyddydau gyffrous, ac mae hyd yn oed canolfan chwaraeon y dref mewn adeilad gwaith haearn o Oes Fictoria.
Roedd y pentref hwn yn arfer bod yn borthladd prysur. Yn ystod y 17eg ganrif, hwn oedd yr unig harbwr rhwng Aberddawan a Llansawel. Ewch i weld yr eglwys galchfaen urddasol, a ffynnon ‘hudol’ Sant Ioan.
I gael golygfeydd gwych o’r dref, dringwch fryn hanesyddol y Castellnewydd i gyrraedd y castell. Yn y 1180au, atgyfnerthodd Harri’r II y cadarnle Normanaidd hwn, ac ychydig ymhellach i lawr y bryn, fe welwch Dŷ Sant Ioan o’r cyfnod canoloesol hwyr, sydd wedi’i gadw’n dda.
Mae’r dref glan y môr hyfryd hon yn cael ei hadnabod yn bennaf am ei hwyl traddodiadol ar lan y môr ar draethau addas i’r teulu. Fodd bynnag, mae ei hanes yn ddiddorol. Mae Amgueddfa Porthcawl wedi’i lleoli yn Hen Orsaf Heddlu’r dref, ac mae ei chasgliadau yn cynnwys themâu cymdeithasol, morwrol a milwrol. Ewch i weld yr arddangosfeydd am y Rhyfel Byd Cyntaf, Hanes Porthcawl a Thrychineb Samtampa.