Gŵyl Gerdded Love2Walk
Cynhelir Gŵyl Gerdded Love2Walk eleni rhwng dydd Sadwrn 22 Mehefin a dydd Sul 30 Mehefin 2024!
Mae Love2Walk yn ceisio annog pobl leol ac ymwelwyr i fynd allan i’r awyr agored, i gerdded a mwynhau golygfeydd godidog Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, o’r Cymoedd i’r arfordir Baner Las.
Trefnwyd ar ran y Fforwm Mynediad Lleol.
Llwybrau Cerdded
Mae gan bob un o’n teithiau cerdded ni dywyswyr gwybodus a phrofiadol ac maen nhw am ddim.
- Does dim angen archebu lle ar gyfer y teithiau cerdded ond os ydych chi’n dymuno archebu gallwch wneud hynny ar e-bost, ar Facebook neu dros y ffôn.
- Mae’n bosibl y bydd angen talu am barcio, gwiriwch cyn i chi deithio.
- Mae’r amseroedd gorffen yn fras ac yn ganllaw yn unig.
Mae’r amserlen teithiau cerdded ar gael isod, neu drwy lawrlwytho’r daflen Love2Walk:
- Hawdd – addas i bawb heb unrhyw broblemau ffitrwydd neu symudedd difrifol, efallai y bydd angen codi cadeiriau gwthio dros rwystrau bach.
- Cymedrol – gall gynnwys llwybrau serth a chefn gwlad agored - Esgidiau cerdded yn hanfodol.
- Heriol – angen bod yn gerddwr cefn gwlad profiadol gyda lefel dda o ffitrwydd.
Diwrnod ac amser | Enw a lleoliad | Manylion | Gradd |
Dydd Sadwrn 22 Mehefin 10am - 12pm |
Taith gerdded cadeiriau LAF Llwybr Treftadaeth Goetrehen |
Dechreuwch yr Ŵyl Gerdded drwy ymuno ag aelodau’r Fforwm Mynediad Lleol i fwynhau’r golygfeydd ar hyd y Llwybr Treftadaeth o amgylch Goetrehen | Cymedrol |
Dydd Sul 23 Mehefin 9.45am |
Taith Gerdded y Ramblers | Sain Ffraid – Taith Gerdded 5 milltir yn fras. | Cymedrol |
Dydd Llun 24 Mehefin 10.30am - 11.30am |
Arwerthiannau Defaid Melin Ifan Ddu | Un daith o’n rhaglen o deithiau cerdded wythnosol cyfeillgar, sy’n digwydd ar yr un diwrnod ac amser bob wythnos. Cyfle i fanteisio ar y llwybr beicio ag arwyneb ar hyd llawr y dyffryn | Cymedrol |
Dydd Llun 24 Mehefin 3pm - 4pm |
Canolfan Bywyd Ogwr | Un daith o’n rhaglen o deithiau cerdded wythnosol cyfeillgar, sy’n digwydd ar yr un diwrnod ac amser bob wythnos. Dechrau arni i fanteisio ar y llwybr beicio ag arwyneb ar hyd llawr y dyffryn |
Cymedrol / Nordig |
Dydd Llun 24 Mehefin 5.30pm -7pm |
Taith gerdded ar ôl gwaith | Cyfarfod yn Ardal Chwarae’r Plant yng Nghaeau Newbridge. | Hawdd |
Dydd Mawrth 25 Mehefin 10am - 11.30am |
Tro Bach Gymdeithaso | Cyfarfod ym Maes Parcio Tesco Maesteg | Cymedrol |
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2pm - 3pm |
Taith Gerdded Archwilwyr Parc Slip |
Cyfarfod yn y Maes Parcio a mwynhau taith gylch o amgylch y warchodfa natur leol yma. Gall fod yn fwdlyd os yw’r tywydd wedi bod yn wlyb. | Cymedrol / Nordig |
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2.30pm - 6pm |
Sgwâr Melin Ifan Ddu i Fynydd yr Gaer |
Chwilio am daith gerdded hirach a’r cyfle i fwynhau’r golygfeydd o amgylch. Melin Ifan Ddu? Os felly, mae’r daith yma ar eich cyfer chi. | Cymedrol |
Dydd Mercher 26 Mehefin 1pm - 2pm |
Caeau Newbridge | Un daith o’n rhaglen o deithiau cerdded wythnosol cyfeillgar, sy’n digwydd ar yr un diwrnod ac amser bob wythnos. | Cymedrol / Nordig |
Dydd Mercher 26 Mehefin 3pm - 4.30pm |
Taith Gerdded Fforest Cwm Garw | Cyfarfod ym maes parcio Canolfan Hamdden Cwm Garw. Un daith o’n rhaglen o deithiau cerdded archwilio, sy’n digwydd bob wythnos ar yr un diwrnod ac amser ond mewn llefydd gwahanol. Gall ychydig o’r darnau serth fod yn fwdlyd os yw’r tywydd wedi bod yn wlyb. |
Cymedrol / Nordig |
Dydd Mercher 26 Mehefin 6pm |
Taith Gerdded y Ramblers | Newton – Tua 4 milltir | Cymedrol |
Dydd Iau 27 Mehefin 11am - 12pm |
Taith Gerdded Het Haul Porthcawl |
RNLI Porthcawl. Cyfarfod y tu allan i’r siop gofroddion. Nawr bod y tywydd yn cynhesu’n braf chwiliwch am eich het haul orau a galwch heibio i ymuno. | Hawdd – Cyfeillgar i Ddementia |
Dydd Iau 27 Mehefin 10.30am |
Taith Gerdded y Ramblers | Sain Ffraid – Tua 3 milltir | Cymedrol |
Dydd Gwener 28 Mehefin 10am - 11.30am |
Tro Bach Gymdeithasol | Cyfarfod ym Maes Parcio Rygbi Porthcawl | Cymedrol |
Dydd Gwener 28 Mehefin 5.30pm - 6.30pm |
Taith gerdded iechyd. Maes Parcio Pwll Nofio Pencoed |
Taith Gerdded Hawdd ar arwynebau tarmac, taith gerdded gylch yn dychwelyd i’r man cychwyn. | Hawdd – Cyfeillgar i Ddementia |
Dydd Sadwrn 29 Mehefin 10am - 12pm |
Dolen Black Rocks | Llwybr Glan y Môr sy’n Gyfeillgar i Deuluoedd. Taith gerdded drwy Dwyni Newton i Draeth Newton ac ar hyd ymyl y dŵr, gan droelli drwy Black Rocks. | Hawdd (rhai darnau ar dywod) |
Dydd Sul 30 Mehefin 9.45am |
Taith Gerdded y Ramblers | Margam – Tua 5.5 milltir | Heriol |
Gall ffotograffwyr proffesiynol neu amatur fod yn bresennol ar eich taith gerdded. Ystyrir bod caniatâd ar gyfer ffotograffau’n cael ei roi pan fyddwch yn ymuno â’r daith gerdded. Fodd bynnag, cofiwch roi gwybod i arweinydd y daith gerdded neu’r ffotograffydd ar y diwrnod os byddwch yn dewis peidio â bod yn rhan o unrhyw ffotograffau. Efallai y bydd y lluniau’n cael eu defnyddio ar-lein neu ar gyfer cyhoeddusrwydd yn y dyfodol.
Cynghorion Hanfodol
- Mae sanau ac esgidiau cyfforddus yn hanfodol, dewiswch esgidiau sy’n codi’r sawdl ychydig ac yn cynnal y droed a gwnewch yn siŵr bod digon o le i symud bysedd eich traed
- Gwisgwch ddillad cyfforddus sy’n ffitio’n llac ac yn eich galluogi i symud yn rhydd
- Bydd gwisgo sbectol haul ac eli haul yn amddiffyn eich llygaid a’ch croen rhag pelydrau UV yr haul
- Mae cerdded yn waith sychedig felly cariwch ddŵr, yn enwedig os ydych chi’n bwriadu cerdded am fwy na hanner awr
- Dewch â rhywbeth i’w fwyta gyda chi fel bod gennych chi ddigon o egni
- Cariwch ffôn symudol gyda chi
- Dilynwch y cod cefn gwlad bob amser
- Sylwch fod cerddwyr yn cymryd rhan yn y teithiau cerdded ar eu menter eu hunain a dylent sicrhau eu bod yn heini ac yn iach ar ddiwrnod y daith gerdded.
Y Cod Cefn Gwlad
Eich canllaw ar gyfer mwynhau parciau, dyfrffyrdd, arfordir a chefn gwlad:
- Parchwch bawb
- Diogelwch yr amgylchedd
- Mwynhewch yr awyr agored
- Dysgwch arwyddion a symbolau cefn gwlad