Parc Bedford
Mae gan y Parc yma ryw 18 hectar o ofod gwyrdd a gweddillion Gwaith Haearn Cefn Cribwr o’r 18fed Ganrif. Mae gan y Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur (SDdCN) gymysgedd o gynefinoedd. Coetir llydanddail yw’r rhain yn bennaf gyda phorfeydd brwyn, gwellt y gweunydd, llwyni, rhedyn, afonydd a phyllau. Mae rhan o’r SDdCN, ‘Waun Cimla’, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei gynefinoedd corsiog, y planhigion prin sydd yno a glöyn byw britheg y gors.
Hefyd, mae pathewod wedi’u cofnodi yma, sy’n ei wneud yn un o’r ychydig safleoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cynnwys y rhywogaeth yma sydd dan warchodaeth yn Ewrop.
Trawsysgrif o fideo cyntaf Parc Bedford.
Trawsysgrif o ail fideo Parc Bedford.