Crëwr Cerddoriaeth
Mae archwilio gwahanol synau yn y coetir a sut maent yn cael eu creu yn brofiad gwerthfawr i blant ifanc.
Gall ehangu eu geirfa ddisgrifiadol yn ogystal â rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o briodweddau defnyddiau.
Mae’r Cyfansoddwr Cerddoriaeth yn rhan o lwybr cerfluniau Frog Pond Wood.
Gweithgaredd
Gyda’r curwr pren wedi’i ddarparu, arbrofwch gyda ‘thapio’ yn hytrach na ‘hitio’r tiwbiau i weld pa wahanol nodau all gael eu creu.
Awgrymiadau
- Copïwch y nodyn drwy ei ganu â’ch llais.
- Dewch i gael hwyl wrth greu cân hyfryd i daflu synau hudolus ar draws y coetir.
- Edrychwch o’ch cwmpas am ddetholiad o ffyn gwahanol a gweld pa synau eraill y gallwch eu creu gyda nhw ar y tiwbiau.
- A ellir gwneud synau gwahanol gyda ffyn gwahanol?
- Rhowch gynnig ar dapio rhythm a chyfri’r curiadau. Ewch ar grwydr i weld pa bethau eraill y gallwch wneud synau arnynt gyda’ch ffon, gan chwilio am arwynebau gwahanol i arbrofi â nhw. Deffrwch y mwydod!