Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwarchodfa Natur Leol Craig y Parcau

Yn fwy na thri phwynt dau hectar, mae Craig y Parcau yn goetir derw ac ynn ar lethr serth ar lan Afon Ogwr. Mae’n hafan i fywyd gwyllt gyda sawl llwybr troed. Rydym yn ei rheoli fel bod y gymuned leol yn gallu dod yn agos at natur.

Llwybrau yng Nghraig y Parcau

Mae llwybr cylch sy’n rhyw dri chwarter milltir. Mae’n eithaf gwastad mewn mannau ond mae angen i chi allu dringo stepiau. Mae rhai rhannau’n fwdlyd ac yn anwastad. Cadwch lygad am y pyst cyfeirio robin goch a fydd yn helpu i’ch arwain chi o amgylch y warchodfa.

Mae’r llwybr uchaf drwy’r coed yn rhan o Daith Gylch Afon Ogwr a Merthyr Mawr, a gallech barhau ar hyd hwn.

Rhywogaethau o blanhigion:

  • ynn
  • clychau’r gog
  • rhedyn tafod yr hydd
  • y goesgoch
  • llygad Ebrill
  • derw digoes
  • blodau’r gwynt
  • suran y coed
  • marddanhadlen felen

Rhywogaethau o anifeiliaid:

  • titw tomos las
  • siff saff
  • ystlum Daubenton
  • cnocell werdd
  • glas y dorlan
  • dyfrgi
  • robin goch
  • dringwr bach
  • telor yr helyg

Dylai pobl sy’n chwilio am ddyfrgwn geisio canfod eu tail olewog sydd fel rheol ar garreg amlwg ar lan afon, lle maent yn debygol o fod yn nythu.

Os gwelwch chi y rhain neu rywogaethau eraill yma, tynnwch lun a’i ddangos i ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Cerflun ceidwad natur

Mae’r parc yma’n cynnwys Ceidwad Ogwr.

Hanes lleol

Mae’r goedwig yn agos at ‘Y Maen Dawnsio’. Yn ôl y chwedl, pan mae’r ceiliog yn canu ar fore’r Nadolig, mae’r maen hynafol yn dawnsio i lawr i’r afon i ymolchi.

Lleoliad:

Gwarchodfa Natur Leol Craig y Parcau
Cyfeiriad: Heol Park Court, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH.

Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, sydd ychydig gannoedd o fetrau o’r goedwig.

Gwirfoddoli neu drefnu trip ysgol yma
Os ydych chi eisiau helpu’r safle yma, beth am drefnu ymweliad addysgol, neu wirfoddoli yng nghefn gwlad yn gyffredinol - cysylltwch â ni.

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y