Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

Gwarchodfa Natur Cynffig yw un o’r safleoedd cadwraeth pwysicaf i fywyd gwyllt yn y DU. Hefyd mae’n un o brif warchodfeydd twyni tywod Cymru, gyda phlanhigion fel tegeirianau cors gwyllt, adar a phryfed sy’n dibynnu ar y cynefin yma am eu goroesiad.

Mae pwll naturiol mwyaf Morgannwg, Pwll Cynffig, wedi’i leoli ar ymyl y warchodfa gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Abertawe i ‘r Gŵyr. Yn wir, mae’r warchodfa yn weddillion system barhaus enfawr o dwyni a arferai ymestyn o aber Ogwr i Benrhyn Gŵyr.

Mae’r warchodfa yn hoff loches i adar gwyllt drwy’r flwyddyn. Mae’r ardal yn boblogaidd iawn gyda gwylwyr adar, ffotograffwyr, cerddwyr a theuluoedd. Mae’n un o’r ychydig fannau yn y DU lle gellir gweld aderyn y bwn yn ystod y gaeaf.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dynodedig. Yn wir, mae’r warchodfa wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am lwyddo i feithrin rhywogaethau prin.

Caiff yr ardal ei rheoli er mwyn sicrhau nad yw’r twyni’n cael eu llethu gan laswellt trwchus a choetir prysgoed gan golli bywyd gwyllt pwysig ac amrywiol.

Nid yw Gwarchodfa Natur Cynffig yn cael ei rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mwyach. Mae bellach yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig.

Cyswllt

Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig.
Ffôn: 01656 815070

Chwilio A i Y