Gofod gwyrdd bach arall
Dyma’r manylion ar gyfer ymweld â llawer o’r llecynnau hardd sydd ar gael ar hyd a lled ein cymunedau ni. Mae llwybrau troed, gwyrddni cyfoethog a phrosiectau bywyd gwyllt ar gyfer cymryd rhan ynddynt.
Caeau Aber
Ar hyn o bryd, mae dau gae pêl droed yma, a cherflun derw ‘Ceidwad y Caeau’.
Parc Lles Maesteg
Mae Parc Lles Maesteg yn ardal sy’n oddeutu naw pwynt pedwar hectar o Barcdir ffurfiol. Yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae’n cynnwys caeau rygbi, lawntiau bowlio, cyrtiau tennis, gwelyau ffurfiol a llwybrau gyda choed y naill ochr iddynt. Mae gŵyl leol yn cael ei chynnal yn y Parc bob haf.
Mae nodweddion mwy newydd y Parc yn cynnwys pyllau bywyd gwyllt, gwterydd, llwybrau a phont droed. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei wneud gyda Chyfeillion Parc Lles Maesteg. Maent wedi arwain at sicrhau Dyfarniad Baner Werdd Cenedlaethol i’r Parc yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Parc Calon
Trawsysgrif o fideo Parc Calon.
Mae’r Parc yma wedi cael ei greu o hen waith glo sydd wedi’i adfer. Mae’n cynnwys coetir a llwybrau troed sy’n arwain drwy’r mynyddoedd. Mae ganddo lawer o gerfluniau hefyd.
Y Bont Drochi
Trawsysgrif o fideo’r Bont Drochi.
Mae’r bont hon yn dyddio o’r bymthegfed ganrif. Mae Afon Ogwr yn llifo o dan yr adeilad rhestredig gradd dau yma ac roedd ffermwyr yn arfer trochi eu defaid ynddi drwy eu harwain drwy’r ddau dwll. Mae i’w gweld hanner ffordd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Mawr.
Llynnoedd Diffeithwch
Mae’r Parc yn rhyw naw hectar o Barcdir dymunol sy’n eiddo i ni. Mae’n cynnwys sawl cynefin lled-naturiol o amgylch llyn sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pysgota a hamdden yn gyffredinol.
Mae coetir lled-naturiol llydanddail wedi cael ei sefydlu ar ynysoedd y llyn gyda llwyni o amgylch yr ymylon a phlanhigfa o goetir ar hyd ei lannau. Mae’r rhan fwyaf o’r coed yn goed helyg, gwerni a cheirios, ond hefyd rhywogaethau o ysgaw, llwyfenni Lloegr a drain, yn ogystal â masarn bach. Mae ardaloedd o laswellt dymunol a glaswellt wedi’i wella yn bresennol o amgylch y prif safle hefyd. Yn y gogledd orllewin, mae cae ar wahân o laswelltir niwtral gwlyb, wedi’i led-wella, gyda choed helyg, cynffon y gath, gellesg y gerddi, mintys y dŵr ac erwain.
Drwy weithio gyda sawl sefydliad a grŵp defnyddwyr lleol, fel y gymdeithas rhandiroedd leol, mae’r Parc wedi ennill statws Baner Werdd ers blynyddoedd lawer.