Cyrsiau golff
Mae saith cwrs golff ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Maent yn amrywio o rai safon fyd-eang i rai addas i deuluoedd, ac mae enwogion fel Tom Watson, Bernhard Langer, Colin Montgomerie a llawer mwy wedi ymweld â nhw.
Bridgend Golf
Mae gan y cwrs naw twll hwn faes ymarfer addas i deuluoedd, yn ogystal â chaffi dymunol.
Dydd Sadwrn i ddydd Sul: 8am tan 8pm.
Coed-y-Mwstwr
Mae’r cwrs parcdir hardd hwn yn edrych dros Fro Morgannwg, ac mae’n rhannu’r un enw â gwesty moethus.
Maesteg Golf
Wedi’i leoli’n uchel yng nghanol Cymoedd garw Cymru, mae gan y cwrs hwn olygfeydd anhygoel.
Y Pîl a Chynffig
Mae’r cwrs hwn sydd wedi ennill gwobrau wedi’i leoli yng nghanol twyni mawreddog. Hwn oedd Clwb y Flwyddyn 2017 Undeb Golff Cymru, a gallwch ymgolli yn y cwrs cyswllt yn y gwesty ar y safle.
Royal Porthcawl
Dyma un o gyrsiau cyswllt gorau Ewrop. Yn wir, cynhaliwyd y gystadleuaeth Agored i Chwaraewyr Hŷn yma yn 2014 a 2017. Mae’r dormi ar y safle yn addas i ddeuddeg, ac o’r clwb mae golygfeydd godidog o amrediad y llanw 40 troedfedd cyfagos sy’n newid o hyd.
The Grove
Mae cwrs parcdir Porthcawl yn her ardderchog i chwaraewyr golff o bob oed a gallu.